Deiseb a wrthodwyd Hold a referendum to decide if the number of Welsh Assembly Members should be increased.

During a cost-of-living crisis the money that will be spent paying extra assembly members and their assistants would be better spent elsewhere. In Wales our education system is in decline and our NHS is failing. Why are we wasting millions on more layers of bureaucracy?

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae deiseb yn bodoli eisoes ar y mater hwn. Ni allwn dderbyn deiseb newydd os oes un yn bodoli eisoes ar fater tebyg iawn, neu os yw’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deiseb debyg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried deisebau’n ymwneud â diwygio’r Senedd o’r blaen gan gynnwys un yn galw am refferendwm:

Dylai Llywodraeth Cymru gynnal refferendwm cyn ehangu maint y Senedd (cwblhawyd ar 9 Ionawr 2023)

Mae deiseb arall ar y pwnc yn casglu llofnodion ar hyn o bryd: Rwy’n gwrthwynebu ‘Bil Diwygio’r Senedd’ Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 18 Medi 2023, yn dod yn gyfraith.

Byddech yn fwy tebygol o gael canlyniad ar y mater hwn pe baech yn llofnodi a rhannu’r un ddeiseb. https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/245625

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi