Deiseb a wrthodwyd Have a Referendum on more senedd members cost 100k and to stop the closed list for senedd elections

The 100k spent on extra members could be more usefully spent on the NHS, we don't need extra members and and I want to know who I am voting for in an election

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae’n rhaid i ddeisebau i’r Senedd alw am gamau gweithredu penodol sy’n dod o fewn pwerau’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.
Mae Atodlenni 7A a 7B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn pennu’r materion sy’n ‘gyfyngedig’ neu a ‘gedwir yn ôl’ i Senedd y DU - h.y. meysydd lle mai dim ond Senedd neu Lywodraeth y DU, nid y Senedd neu Lywodraeth Cymru, a gaiff weithredu.
O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd alw am refferendwm y mae eich deiseb yn galw amdano. Mae’n bosibl y byddwch am gyflwyno deiseb i Senedd y DU, a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y linc a ganlyn: https://petition.parliament.uk/

O ran gwrthwynebu'r rhestr gaeedig, mae deiseb eisoes yn casglu llofnodion ar y mater hwn:
Dylid mabwysiadu system pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer seddau’r Senedd
https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/245599

Ni allwn dderbyn deiseb newydd os oes un yn bodoli eisoes ar fater tebyg iawn, neu os yw’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deiseb debyg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Byddech yn fwy tebygol o gael canlyniad ar y mater hwn pe baech yn llofnodi a rhannu’r un ddeiseb.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi