Deiseb a wrthodwyd Ail ystyried y penderfyniad i roi gorau i ariannu Cynllun Heddlu Ysgolion - School Beat Cymru

Ym mis Chwefror 2024, adroddwyd yn y wasg fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi gorau i ariannu'r Cynllun School Beat Cymru o fis Ebrill 2024. Mae hwn yn gynllun sydd yn cyflogi 68 o swyddogion ar draws Cymru ac mae'n wasanaeth sydd yn darpau deilliannau addysgol pwysig iawn i blant. Mae'n ffordd i'r Heddlu allu meithrin perthynas positif gyda phlant a phob ifanc.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae deiseb yn bodoli eisoes ar y mater hwn. Ni allwn dderbyn deiseb newydd os oes un yn bodoli eisoes ar fater tebyg iawn, neu os yw’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deiseb debyg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae deiseb arall sy'n galw am hyn eisoes yn casglu llofnodion:

Parhau i ariannu swyddogion heddlu ysgolion sy'n addysgu plant ac yn cefnogi ysgolion

Byddech yn fwy tebygol o gael canlyniad ar y mater hwn pe baech yn llofnodi a rhannu’r un ddeiseb.
https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246087

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi