Deiseb Gwnewch hi'n amod cynllunio bod gan bob cartref newydd systemau dŵr llwyd/dŵr glaw wedi'u gosod.

Gyda llawer o Gymru yn dioddef o amodau sychder yn rheolaidd, mae'n amser gosod systemau dŵr glaw/dŵr llwyd ym mhob cartref newydd. Mae dŵr yfed drud yn cael ei wastraffu, yn cael ei ddefnyddio i fflysio toiledau ac i ddyfrio gerddi.
Mae ystadegau yn dangos y dylai hyn leihau'r defnydd o ddŵr ffres hyd at 50%.
Byddai hyn yn fuddugoliaeth i berchnogion tai a'r amgylchedd, gan y dylai biliau dŵr leihau a bydd achosion o gymryd cyflenwadau o gronfeydd dŵr, tyllau turio ac afonydd hefyd yn cael ei leihau.

Rhagor o fanylion

Drwy gasglu a storio dŵr glaw, rydych yn lleihau'r angen i ddibynnu ar ddŵr y prif gyflenwad, ac felly’n helpu i arbed dŵr yfed wedi'i drin, sy’n werthfawr. Mae dŵr glaw yn naturiol feddal ac yn rhydd o gemegau, gan ei wneud yn ddewis gwell ar gyfer dyfrio planhigion.
Gall defnyddio dŵr glaw at ddibenion nad ydynt yn ymwneud ag yfed, fel dyfrio a fflysio toiledau leihau eich biliau dŵr yn sylweddol.
Drwy leihau eich dibyniaeth ar ddŵr y brif gyflenwad, rydych hefyd yn lleihau'r ynni sydd ei angen i drin a dosbarthu'r dŵr hwnnw sy'n helpu i leihau eich ôl troed carbon.

Llofnodi’r ddeiseb hon

4 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon