Deiseb Dylid cyflymu mynediad estynedig at naloxone ar gyfer y gwasanaethau allgymorth digartrefedd yng Nghymru
Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn 2024 a 2025, yn enwedig marwolaethau o ganlyniad i opioidau synthetig fel nitazenau, yn gwneud mynediad uniongyrchol at naloxone yn fater o fywyd neu farwolaeth.
Ar hyn o bryd mae gwasanaethau allgymorth haen 2 pwrpasol fel ‘SAM Recovery’ (cwmni buddiant cymunedol (CIC)) yn wynebu rhwystrau diangen i gyflenwi naloxone, sy'n achub bywydau, ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol heb bresgripsiwn.
Rhagor o fanylion
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith o ran y cynnig i ehangu mynediad at naloxone ar gyfer gwasanaethau allgymorth digartrefedd, hosteli a chanolfannau dydd yng Nghymru, ac i osgoi'r oedi presennol wrth weithredu'r ddeddfwriaeth ledled y DU tan ddiwedd 2026.
Lluniwyd y ddeiseb hon gan yr unigolion a ganlyn sy'n gwella o fod yn gaeth, ac sydd, drwy brofiad byw, yn gwybod yn union bod yr hyn y gofynnir i chi ei gyflymu yn fater o fywyd neu farwolaeth.
Emma Mcnamara
Ymgeisydd Annibynnol ar gyfer y Senedd nesaf dros Gŵyr Abertawe
Michelle Price
Cyfarwyddwr gwasanaeth adferiad ‘SAM Recovery’,(cwmni buddiant cymunedol (CIC)), Abertawe
Cullan Mais
Sylfaenydd podlediad y ‘clwb canolog’
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd