Deiseb Cyflwyno cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol yn holl ysgolion cynradd Cymru.
Nid yw plant yng Nghymru yn cael yr un cyllid gwarchodedig ar gyfer addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol â phlant yn Lloegr. Mae ysgolion cynradd yn Lloegr yn elwa o gyllid wedi’i glustnodi ar gyfer addysg gorfforol a chwaraeon, gan gefnogi hyfforddiant, cyfarpar a darpariaeth o ansawdd. Yng Nghymru, mae pwysau amser ac adnoddau cyfyngedig yn aml yn effeithio ar faint o addysg gorfforol y mae plant yn ei chael. Mae'r bwlch cyllido hwn yn effeithio ar ddatblygiad corfforol, hyder, llesiant ac iechyd gydol oes plant.
Rhagor o fanylion
Nid yw Cymru yn darparu cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol mewn ysgolion cynradd. Yn Lloegr, mae cyllid gwarchodedig yn cefnogi hyfforddiant, cyfarpar a darpariaeth gyson.
Yng Nghymru, mae’n rhaid i addysg gorfforol gystadlu â’r pwysau eraill ar ysgolion, gan arwain at brofiadau anghyson i blant. Cyfyngedig yw’r hyfforddiant arbenigol mewn addysg gorfforol, dawns a sgiliau symud sylfaenol y mae llawer o athrawon cynradd yn ei gael.
Heb gyllid pwrpasol, mae ysgolion yn ei chael hi'n anodd buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol neu gymorth arbenigol, gan effeithio ar ansawdd gwersi a dilyniant. Mae ysgolion hefyd yn adrodd am ddiffyg cyfarpar neu gyfarpar hen ffasiwn, yn ogystal â mynediad cyfyngedig i gyfleusterau dan do addas.
Mae disgwyl i ysgolion ariannu adnoddau addysg gorfforol eu hunain o gyllidebau sydd eisoes dan bwysau yn anghynaliadwy. Mae addysg gorfforol o ansawdd uchel yn meithrin llythrennedd corfforol, hyder, lles, ymddygiad a pharodrwydd i ddysgu.
Mae buddsoddi’n gynnar mewn symud yn cefnogi iechyd a chyfranogiad gydol oes. Byddai cyllid wedi'i glustnodi yn creu cyfleoedd tecach i blant ledled Cymru.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd