Deiseb Newidiwch y penderfyniad i ddiddymu cyllid Dechrau Da, BookTrust Cymru ar gyfer cynllun llyfrau babanod am ddim
Mae'r penderfyniad i ddiddymu’r cyllid ar gyfer y cynllun yn golygu mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU sydd heb y cynllun hiresfydlog hwn i ddarparu llyfrau babanod am ddim. Mae’n gynllun sydd wedi profi ei werth a'i effaith dros nifer o flynyddoedd.
BookTrust yw’r elusen ddarllen fwyaf ar gyfer plant yn y DU a'i chenhadaeth yw cael plant o gefndiroedd teuluol bregus ac incwm isel i ddarllen yn rheolaidd, o ddewis ac er pleser. Mae’n canolbwyntio ar helpu plant yn ystod blynyddoedd datblygiadol allweddol.
Rhagor o fanylion
Mae gwaith BookTrust wedi’i hysgogi gan dystiolaeth. Mae ei hymchwil yn rhoi cipolwg unigryw ar fywydau'r teuluoedd y mae’n gweithio gyda nhw a'r hyn sy'n gweithio i feithrin arferion darllen sy'n dod â buddion uniongyrchol a gydol oes i'r plant sydd eu hangen fwyaf.
Mae BookTrust Cymru yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gyflwyno ystod o raglenni effeithiol a dwyieithog a fydd yn ysbrydoli cariad at ddarllen ymysg plant oherwydd ei bod yn gwybod y gall darllen drawsnewid bywydau.
O fabanod i blant yn eu blynyddoedd cynnar a hyd at yr arddegau cynnar, mae darllen yn dod â manteision dwfn ac eang a all gael effaith gadarnhaol gydol oes ar fywydau plant.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd