Deiseb Amddiffyn Llanidloes: Stopiwch lygredd nwy a dŵr peryglus ac anghyfreithlon o Safle Tirlenwi Bryn Posteg nawr

Mae adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun yn cadarnhau bod Bryn Posteg yn peri risg sylweddol. Yn 2025 yn unig, cofnododd y safle lefelau methan o 84% (terfyn diogelwch: 1%) a gollyngodd solidau i Nant-y-Bradnant ar lefel 140 gwaith y terfyn cyfreithiol. Bu’n rhaid i swyddogion roi'r gorau i gynnal gwiriadau mewn parthau penodol am fod eu larymau diogelwch personol yn dangos bod lefelau peryglus o nwy yno. Er iddo gael ei ddisgrifio fel y safle tirlenwi sy'n perfformio waethaf yng Nghymru, mae llygru’n parhau, gan effeithio ar drigolion lleol. Rydym yn mynnu ymyrraeth i atal difrod na ellir ei wrthdroi.

Rhagor o fanylion

Mae tystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru (2024–2025, https://publicregister.naturalresources.wales) yn dangos bod Safle Tirlenwi Bryn Posteg yn mynd drwy chwalfa systemig, gan beryglu diogelwch y cyhoedd a'r amgylchedd.

1. Llygredd Afonydd Difrifol: Ym mis Tachwedd 2025, gollyngodd y safle waddodion i Nant-y-Bradnant ar 7,050 mg/l - 140 gwaith y terfyn cyfreithiol (50 mg/l) (Cyf: CAR_NRW0050076). Er gwaethaf gorchmynion i osod bwnd, canfu arolygwyr ym mis Rhagfyr 2025 nad oedd rhwystr wedi cael ei adeiladu.

2. Risg Nwy: Roedd lefelau methan ar berimedr y safle yn cyrraedd 84% yn gyson (Cyf: CAR_NRW0049850), sydd ymhell y tu hwnt i’r terfyn diogelwch o 1%. Mae ymfudiad nwy bellach mor ddifrifol, ym mis Ebrill 2025, bu’n rhaid i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru adael ardal oherwydd rhybuddion gan eu larymau nwy personol.

3. Mae'r effaith ar drigolion lleol yn ddifrifol: mae pobl yn cael eu cadw y tu ôl i ddrysau caeëdig gan niwsans arogl dyddiol, ac mae ganddynt ofnau ynghylch diogelwch dŵr a ymfudiad nwyon peryglus.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, hwn yw’r safle tirlenwi sy'n perfformio waethaf yng Nghymru. Rydym yn galw am gamau gweithredu brys gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â chynllun adfer tryloyw.

Llofnodi’r ddeiseb hon

31 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon