Deiseb Oedi a thynnu'n ôl bolisïau hinsawdd sy'n niweidio natur, ffermydd a bywyd bob dydd yng Nghymru.
Mae polisïau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yng Nghymru yn effeithio fwyfwy ar ffermio, cefn gwlad, tai, trafnidiaeth a bywyd bob dydd.
Mae'r DU yn cynhyrchu llai nag 1% o allyriadau CO₂ byd-eang, gydag allyriadau lleol yn llai fyth. Mae llawer o drigolion yn cwestiynu a yw’r mesurau sy’n cael eu cymryd yn enw “gweithredu dros yr hinsawdd” yn gymesur, yn effeithiol, neu’n gyfiawn pan fyddant yn arwain at golli tir fferm, coed, cynefinoedd a bywyd gwyllt, ac at gostau byw uwch, cyfyngiadau teithio a newidiadau parhaol i gymunedau.
Rhagor o fanylion
Ledled Cymru, mae polisïau hinsawdd yn cael eu defnyddio i gyfiawnhau datblygiadau ar dir fferm, torri coed a gwrychoedd, colli’r dirwedd wledig a chynefinoedd, ac ymyriadau sy'n effeithio ar fywyd gwyllt ac anifeiliaid.
Ar yr un pryd, mae trigolion yn wynebu costau cynyddol, cyfyngiadau ar y ffyrdd a
chyfyngiadau teithio eraill, anawsterau wrth symud o gwmpas, a therfynau ar weithgareddau dyddiol cyffredin, pob un ohonynt wedi'u cyflwyno fel mesurau angenrheidiol am resymau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd.
Mae llawer o bobl yn credu bod y polisïau hyn yn niweidio'r amgylchedd naturiol yn hytrach na'i amddiffyn. Mae bywyd gwyllt, tir fferm a mannau gwyrdd yn cael eu colli yn bennaf trwy waith datblygu a seilwaith, nid newid hinsawdd ei hun.
Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i oedi a thynnu’n ôl polisïau a rhaglenni sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd lle mae niwed amgylcheddol, colli tir fferm, difrod i gynefinoedd, cyfyngiadau ar fywyd bob dydd a chostau cynyddol yn amlwg yn gorbwyso unrhyw fudd amgylcheddol mesuradwy.
Rhaid i gamau gweithredu dros yr hinsawdd amddiffyn natur a phobl, yn hytrach na chael eu defnyddio i gyfiawnhau polisïau sy'n dinistrio'r union amgylchedd y maent yn honni eu bod yn ei achub.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd