Deiseb Gosod Cofeb i Catrin ferch Owain Glyndŵr yng Nghastell Harlech neu gerllaw

Catrin, merch Owain Glyndŵr. Treuliodd rai o'i blynyddoedd olaf yng Nghastell Harlech wrth i wrthryfel ei thad chwythu ei blwc. Yn ystod y gwarchae, fe gollodd ei gŵr a'i mab, ac ym 1409 cafodd hi, ei mam, a'i merched eu cymryd yn garcharorion a'u symud i Dŵr Llundain.

Rhagor o fanylion

Mae cofeb fodern i Catrin yn Llundain, ond nid oes dim i’w choffáu yn Harlech, sef y man sydd fwyaf cysylltiedig â'i bywyd. Mae trigolion ac ymwelwyr yn parhau i fod yn anymwybodol o bwy oedd hi a'i chysylltiad â'r castell.

Nid cadfridog nac arweinydd gwleidyddol oedd Catrin, ond merch, gwraig, mam, a sifiliad a ddioddefodd golled bersonol ddwys o ganlyniad i ryfel. Mae ei stori yn cyfleu rhywbeth sydd yn aml yn mynd yn angof, sef profiadau menywod a phlant o wrthdaro yn yr oesoedd canol, ac mae’n cynnig persbectif dynol iawn ar hanes Castell Harlech.
Credwn y byddai cofeb neu nodwedd ddeongliadol seml, wedi'i chynllunio â sensitifrwydd, yn gwneud y canlynol:
Anrhydeddu bywyd a dioddefaint Catrin
Ehangu a chyfoethogi’r dehongliad o Gastell Harlech
Gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o brofiadau menywod yn hanes Cymru
Cryfhau dealltwriaeth leol a chenedlaethol o'r stori bwysig hon
Gofynnwn, gyda pharch, i Cadw archwilio, mewn egwyddor, ddichonoldeb cofeb o'r fath a chynghori ar y camau nesaf priodol.
Drwy lofnodi'r ddeiseb hon, rydych chi'n cefnogi cydnabod Catrin ferch Owain Glyndŵr fel ffigwr arwyddocaol yn nhreftadaeth Cymru ac yn cadarnhau bod ei stori'n haeddu cael ei choffáu yn ei phriod le.

Llofnodi’r ddeiseb hon

11 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon