Deiseb Dewch ag uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Gwent yn ôl.

Mae Casnewydd yn ddinas, a hynny ers iddi gael statws dinas yn Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002. Ac eto, yn wahanol i ddinas fodern, cafodd ei huned ddamweiniau ac achosion brys ei symud i Gwmbrân, gydag uned mân anafiadau yn aros yn Ysbyty Brenhinol Gwent, sydd o fewn ffiniau’r ddinas.

O’r herwydd, mae uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenor yn dioddef gan amseroedd aros eithriadol o hir, ac mae'n rhy fach i wasanaethu'r cymunedau amrywiol o Gasnewydd a'r cymoedd tu hwnt. Byddai ailagor uned ddamweiniau ac achosion brys yn ninas Casnewydd yn dod â gwasanaeth mawr ei angen yn ôl.

Rhagor o fanylion

Mae cleifion sy’n cyrraedd Ysbyty’r Faenor yn wynebu amseroedd aros hir a rhaid i'r rhai sy'n cyrraedd mewn ambiwlans aros yn hwy byth. Mae’r uned ddamweiniau ac achosion brys yn fechan iawn, gyda dim mwy nag 20 o gadeiriau. Mae'n amlwg ar ôl 5 mlynedd nad yw’n ymarferol iddi wasanaethu Casnewydd a'r cymunedau cyfagos oherwydd ei maint.

Cafodd pobl Casnewydd siom aruthrol pan symudwyd yr uned ddamweiniau ac achosion brys o Ysbyty Brenhinol Gwent ar 17 Tachwedd 2020. Nid yw’n ymarferol i i ddinas fawr gael ei phrif ysbyty mewn tref gyfagos. Ar ben hynny, nid yw uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenor yn gallu diwallu'r galw o Gasnewydd a thu hwnt yn effeithlon.

Rwyf i, a Chasnewydd, am i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ailagor uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Gwent. Bydd y cam cadarnhaol hwn yn lleddfu’r straen ddifrifol ar uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenol a bydd yn lleihau amseroedd aros yn gyson ar draws y Bwrdd Iechyd.

Llofnodi’r ddeiseb hon

3 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon