Deiseb Diwygio Canllawiau Ffrwythlondeb y GIG yng Nghymru
Ar hyn o bryd, er mwyn i fenywod gael eu hatgyfeirio at wasanaethau ffrwythlondeb yng Nghymru, mae angen iddynt gael Mynegai Màs y Corff (BMI) rhwng 19 a 30 (o dan 35 mewn rhai ardaloedd). Deëllir bod gordewdra’n gallu achosi problemau yn ystod beichiogrwydd, ond nid yw'r canllawiau presennol yn ystyried amgylchiadau personol pobl. Bydd angen mwy o help ar rai menywod nag eraill oherwydd problemau fel syndrom ofarïau polysystig (PCOS), sy'n achosi ymwrthedd i inswlin a chynnydd mewn testosteron. I bob pwrpas, mae'r system bresennol yn dweud wrth fenyw: os ydych chi'n dew, nid ydych chi'n haeddu bod yn fam.
Rhagor o fanylion
Mae BMI wedi cael ei ddefnyddio fel yr unig fesuriad wrth benderfynu a fydd pobl yn cael mynediad at wasanaethau’r GIG. Fodd bynnag, nid yw canllawiau mor haearnaidd yn caniatáu i amgylchiadau personol ac unigol gael eu hystyried. Yn hytrach na helpu menywod i lywio'r amgylchiadau personol hyn, maent yn eu hanfod yn cyfleu stigma ynghylch gorbwysau a’r gred nad oes gan fenywod dros BMI penodol hawl i gael gofal.
Mae ymchwil sy'n awgrymu bod BMI yn fesuriad hen ffasiwn ac mae cwestiynau ynghylch pam mae'r GIG yn dibynnu arno o hyd yn achos menywod sydd dros eu pwysau ond sydd fel arall yn iach. Dyma rywbeth y dylid edrych arno, yn enwedig o ystyried bod clinigau ffrwythlondeb preifat yn canolbwyntio ar oedran, yn hytrach na phwysau. Mae’r sefyllfa’n awgrymu bod anghysondeb rhwng darparwyr gofal iechyd, a bod yr hawl i gael cymorth gyda ffrwythlondeb yn troi’n loteri cod post.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd