Deiseb Mae angen mwy o gyllid ar ofal a chymorth ym maes iechyd atgenhedlol a gynaecolegol menywod

Mae angen sicrhau bod mwy o gymorth, cefnogaeth a thriniaethau ar gael i fenywod sy'n dioddef o broblemau iechyd gynaecolegol ac atgenhedlol. Yn hytrach na chael gwybodaeth sydd yn hen neu gael ein hanwybyddu, mae angen mwy o gymorth arnom i'n helpu i reoli a thrin ein symptomau, boed hynny ar gyfer gofal wedi camesgoriad, cyflyrau fel syndrom ofarïau polycystig, endometriosis, menopos neu unrhyw gyflwr arall.

Rhagor o fanylion

Mae angen mwy o gyllid ar gyfer gofal a chymorth i fenywod sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd atgenhedlol a gynaecolegol. Rydym yn pryderu bod gwybodaeth anghywir, hen a diwerth yn cael ei rhoi, ac nad yw'n helpu i reoli'r symptomau. Mae llawer o fenywod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu neu eu diystyru pan fyddant yn codi’r materion hyn.

Rydym am roi’r gorau i weld menywod yn cael cyfarwyddiadau i ‘golli pwysau’ neu’n cael cynnig dulliau atal cenhedlu fel triniaeth. Mae angen trin ymwrthedd i inswlin o ddifrif a dylai mwy o opsiynau fod ar gael o ran triniaeth. Mae angen cydnabod symptomau poenus, mislif afreolaidd neu absennol, blinder ac anghydbwysedd hormonaidd o ddifrif a dylai mwy o driniaeth fod ar gael. Mae angen gwell gofal ar gyfer pob cyflwr gan gynnwys y menopos, endometriosis a syndrom ofarïau polycystig (a elwir hefyd yn PMOS). Ni ddylai menywod orfod mynnu bod eu lleisiau yn cael eu clywed ac ni ddylid eu hanwybyddu a rhoi cyngor diog iddynt. Credwn fod angen newidiadau sylweddol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

28 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon