Deiseb Cyflwyno Dyletswydd i Atal Trais Rhywiol ym Mhrifysgolion Cymru

Nid yw myfyrwyr yng Nghymru yn cael eu diogelu gan ddyletswydd gyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i brifysgolion atal trais rhywiol. Gyda 24.5% o fyfyrwyr y DU yn dioddef camymddwyn rhywiol, yn ôl y Swyddfa Fyfyrwyr, mae angen gweithredu ar frys.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hyfforddiant gorfodol ynghylch cydsyniad ac ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol i bob myfyriwr ac aelod o staff, systemau adrodd clir, cyhoeddi data tryloyw ynghylch trais rhywiol a pholisïau sy'n canolbwyntio ar oroeswyr i wneud campysau yn fwy diogel a sefydliadau yn atebol.

Rhagor o fanylion

Mae myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn cael eu rhoi dan anfantais oherwydd diffyg gofynion statudol rhagweithiol ar gyfer atal trais rhywiol mewn addysg uwch.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i fynd i'r afael â thrais rhywiol yn ehangach, rhaid i waith atal gael ei ymestyn i brifysgolion lle mae myfyrwyr yn byw, yn astudio ac yn cymdeithasu.

Yn Lloegr, cyflwynodd y Swyddfa Fyfyrwyr Amod E6, gan greu canlyniadau rheoleiddiol i sefydliadau sy'n methu â mynd i'r afael ag aflonyddu a chamymddwyn rhywiol. Ar hyn o bryd nid oes gan Gymru amddiffyniad cyfatebol, gan adael myfyrwyr ar ôl.
Nid yw trais rhywiol yn anochel; caiff ei alluogi gan ddiffyg gweithredu. Mae myfyrwyr yn haeddu diogelwch, atebolrwydd, a dyletswydd i atal niwed yn y gyfraith.

CEFNDIR:
Myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd yn dweud iddi gael ei herlid am ffioedd ar ôl iddi gael ei threisio- https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-67240860
Goroeswr trais rhywiol: Gallai hyfforddiant staff prifysgol ynghylch trais rhywiol fod wedi fy achub i-https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-68294038

Llofnodi’r ddeiseb hon

529 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon