Deiseb Gosod gofyniad ar gynghorau Cymru i flaenoriaethu ansawdd, parhad a diogelwch wrth gomisiynu gofal cymdeithasol

Rydym am weld gofyniad ar gynghorau Cymru i gymryd y camau a ganlyn:
* Cyhoeddi sut mae contractau gofal yn cael eu dyfarnu.
* Gwahardd y broses o gomisiynu ar sail y gost isaf yn unig.
* Gwella’r oruchwyliaeth o ddarparwyr gofal cartref.
* Ymchwilio i fethiannau mewn arferion comisiynu.
* Cyflwyno lefelau staffio gofynnol a hyfforddiant estynedig ar gyfer staff.

Rhagor o fanylion

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau gofal hanfodol ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl drwy gontractau gyda darparwyr preifat a darparwyr trydydd sector. Mae pryderon wedi’u mynegi ynglŷn â’r ffaith y gall arferion comisiynu flaenoriaethu ymdrechion i leihau costau uwchlaw parhad ac ansawdd gofal.
Gall hyn gyfrannu at ruthro wrth gynnal ymweliadau, lefelau trosiant uchel ymhlith y staff, cymorth anghyson, a phwysau ar weithwyr gofal drwy arferion amserlennu afrealistig a chyflogau isel. Mae'r materion hyn yn effeithio ar bobl sy’n agored i niwed, gofalwyr di-dâl, a staff rheng flaen ledled Cymru.
Cafwyd hanesion gan deuluoedd a chymunedau lleol sydd wedi tynnu sylw at bwysau parhaus o fewn y sector gofal cymdeithasol. Mae angen mwy o dryloywder a safonau cenedlaethol cryfach er mwyn sicrhau bod cynghorau'n comisiynu gofal mewn modd diogel a theg, ac ar sail ansawdd y canlyniadau yn hytrach na chost yn unig.
Credwn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r broses a ddilynir gan awdurdodau lleol wrth gomisiynu gwasanaethau gofal, a chredwn y dylai gyflwyno safonau cenedlaethol cliriach ar gyfer comisiynu moesegol a chynaliadwy.

Llofnodi’r ddeiseb hon

83 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon