Deiseb Dod â’r Cyfyngiad Dwy Flynedd ar Feddyginiaethau Colli Pwysau Chwistrelladwy i Ben yng Nghymru

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu polisi’r GIG ynghylch meddyginiaethau colli pwysau chwistrelladwy megis Mounjaro a Wegovy er mwyn caniatáu presgripsiynau hirdymor lle bo angen clinigol, yn hytrach na chyfyngu triniaeth i ddwy flynedd.

Mae gordewdra yn gyflwr iechyd cronig, ac mae llawer o gleifion mewn perygl o ennill pwysau’n ôl a gweld dirywiad yn eu hiechyd corfforol a meddyliol pan gaiff triniaeth ei hatal oherwydd terfyn amser penodedig.

Rhagor o fanylion

I lawer o bobl, yr unig ddewis wedyn yw talu’n breifat am y meddyginiaethau hyn, gyda chostau’n cyrraedd hyd at £300 y mis. Mae hyn yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar bobl, ac yn cyfrannu at dlodi ac iechyd meddwl gwael ymhlith y rhai sy’n dibynnu ar y driniaeth.

Dylai penderfyniadau ynghylch parhau â thriniaeth gael eu gwneud ar sail angen clinigol a budd meddygol, nid ar sail cyfyngiadau amser mympwyol.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu system fwy hyblyg, deg a thosturiol ar gyfer trin gordewdra yn y tymor hir.

Llofnodi’r ddeiseb hon

6 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon