Deiseb Cyflwyno'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer Etholiadau'r Senedd yn y dyfodol

Yn Etholiad y Senedd yn 2026, cyflwynwyd system Bleidleisio Rhestrau Caeedig i ethol 96 o Aelodau i’r Senedd newydd ei hehangu. Fodd bynnag, dangosodd y system hon rai gwendidau sylweddol, gan mai dim ond pleidleisio dros bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol y gallai pleidleiswyr ei wneud, tra bod y penderfyniad ynghylch pwy a etholwyd i'r Senedd yn y pen draw yn nwylo'r pleidiau eu hunain.

Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau'r gwaith o gyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer Etholiadau'r Senedd yn y dyfodol.

Rhagor o fanylion

Mae cynrychiolaeth gyfrannol mewn etholiadau cenedlaethol yn bwysig, ac mae'n sicr yn ganmoladwy mai dyma oedd y nod gyda diwygiadau'r Senedd o'r dechrau.
Er bod y system Rhestrau Caeedig a weithredwyd wedi cyflawni'r nod hwn, fe gyflwynodd broblemau hefyd, megis gwanhau'r cysylltiad rhwng pleidleiswyr a'u cynrychiolwyr a'r canfyddiad bod ymgeiswyr yn cael eu gwobrwyo am deyrngarwch i blaid yn hytrach na'u gallu i gynrychioli eu hetholwyr.
Byddai’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, ar y llaw arall, hefyd wedi cyflawni'r nodau o wneud etholiadau'r Senedd yn fwy cyfrannol heb gyflwyno'r un problemau ag a welwyd o gyflwyno Rhestrau Caeedig, gyda'r fantais ychwanegol y gall pleidleiswyr restru cymaint o ymgeiswyr ag y dymunant, sy'n golygu na fyddai'n rhaid iddynt bleidleisio ar hyd llinellau plaid.
Mae'r system eisoes yn cael ei defnyddio'n llwyddiannus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae'n boblogaidd ymhlith yr etholwyr, fel y dangosir gan yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygiadau'r Senedd, er mwyn sicrhau cymesuredd ac atebolrwydd.

Llofnodi’r ddeiseb hon

33 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon