Deiseb Rhaid sicrhau na chollir yr unig ganolfan endometriosis drydyddol yng Nghymru sydd ag achrediad y BSGE.
Yng Nghymru, dim ond un ganolfan drydyddol arbenigol sydd ag achrediad y BSGE ar gyfer trin achosion cymhleth o endometriosis ymdreiddiol dwfn. (1)
Wrth gyhoeddi ei gofrestr risg, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi nodi risg bosibl o golli achrediad y BSGE erbyn mis Rhagfyr 2026, a fyddai’n arwain at ganlyniadau difrifol i'r sefydliad o safbwynt ariannol, clinigol ac enw da. Nodir hefyd nad oes unrhyw gyllid ar gael, felly nid oes datrysiad ar hyn o bryd.
Rhagor o fanylion
Cyflwr cronig yw endometriosis sy'n effeithio ar tua un o bob 10 o fenywod a'r rhai a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni. Yn aml, mae angen ymyrraeth lawfeddygol arbenigol i drin y cyflwr, ac mae llawer o fenywod yn treulio blynyddoedd yn aros am ddiagnosis a thriniaeth briodol. Byddai colli'r ganolfan achrededig hon yn golled drychinebus i ofal iechyd menywod yng Nghymru. Mae'r ddeiseb hon yn galw ar y Senedd i ymyrryd i fynd i’r afael â’r risg sy'n wynebu’r ganolfan endometriosis ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
(1) BSGE – Cymdeithas Endosgopi Gynaecolegol Prydain
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd