Deiseb Cyfleusterau newid gwell i bobl sy'n byw gyda stoma

Jo-Anne Gravell ydw i, ac ym mis Hydref 2019 fe gefais ddiagnosis o ganser y coluddyn cam 4. O ganlyniad i'm triniaeth a'r llawdriniaeth a achubodd fy mywyd, rwyf bellach yn byw gyda stoma parhaol. Rwyf yn oroeswr balch, ond mae byw bob dydd gyda stoma yng Nghymru yn golygu wynebu rhwystrau sylweddol a diangen, a hynny oherwydd y diffyg difrifol o gyfleusterau newid cyhoeddus digonol.

Rhagor o fanylion

Mae toiledau cyhoeddus safonol ledled Cymru yn hollol anaddas ar gyfer gofal stoma.
Mae angen i doiledau gael silffoedd sydd â digon o le i osod cyflenwadau meddygol glân allan yn hylan.
Bachau ar y drysau i gadw dillad a chyflenwadau ffres oddi ar loriau gwlyb.
Drychau yn y lle iawn ar gyfer gweld beth sy’n digwydd yn ystod y broses newid.
Bin gwaredu hygyrch, cynnil yn y ciwbicl ei hun.
Heb y pethau sylfaenol hyn, mae unigolion sy'n byw gyda stomâu yn aml yn gorfod newid eu bagiau mewn amodau anhylan—weithiau ar lawr toiled—neu wynebu gorbryder ac unigedd difrifol, yn gaeth yn eu cartrefi oherwydd yr ofn o beidio â chael rhywle glân i fynd.Rydym yn haeddu urddas, preifatrwydd a glendid. Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu canllawiau gorfodol a fyddai’n sicrhau bod toiledau cyhoeddus a hygyrch ledled Cymru yn cael eu huwchraddio i fodloni'r gofynion safonol ar gyfer gofal stoma. Drwy wneud yr addasiadau bach ond hanfodol hyn, gall Cymru sicrhau bod goroeswyr canser a phob un sy'n byw gyda stoma yn gallu byw bywyd cyhoeddus llawn heb danseilio eu hiechyd a'u hunan-barch.

Llofnodi’r ddeiseb hon

60 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon