Deiseb Dylid caniatáu i gwmnïau gofal plant gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, yn debyg i drefniant Ofsted, er mwyn sicrhau clybiau gwyliau rhatach.
Ar hyn o bryd, mae rhieni yng Nghymru yn wynebu costau uwch ar gyfer clybiau gwyliau na rhieni yn Lloegr.
Byddai modd gwella’r sefyllfa hon pe bai mwy o gwmnïau'n caniatáu i bobl wneud taliadau drwy’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth (TFC).
Yng Nghymru ar hyn o bryd, os yw cwmnïau am ganiatáu i bobl wneud taliadau drwy TFC (cynllun gan y Llywodraeth sydd â’r nod o helpu rhieni gyda chostau gofal plant), rhaid i bob darparwr gofal plant fod wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae hyn yn cynnwys unrhyw glybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau.
Yn Lloegr, mae Ofsted yn cynnig trefniant cofrestru gwirfoddol i unrhyw gwmni sy'n gweithio gyda phlant ac sy’n cytuno i lynu wrth ei ganllawiau gofal plant.
Rhagor o fanylion
Mae costau clybiau gwyliau yn ddrytach yng Nghymru, ac mae cofrestru gydag AGC yn orfodol er mwyn cael taliadau drwy TFC.
Mae cost treulio wythnos arferol (5 diwrnod) mewn clwb gwyliau yng Nghymru yn amrywio rhwng £175 a £325. Pe bai rhieni’n gallu talu am y gwasanaeth hwn drwy TFC, byddai modd iddynt arbed rhwng £35 a £65 yr wythnos.
Nid oes modd i rieni gymryd chwe wythnos o wyliau bob amser. Mae cyflogwyr fel arfer yn darparu pedair wythnos o wyliau â thâl y flwyddyn, ac nid yw’r ddarpariaeth hon yn ddigon ar gyfer y 13 wythnos o wyliau ysgol a geir bob blwyddyn, hyd yn oed os bydd dau riant yn cymryd eu gwyliau ar adegau gwahanol. Felly, mae’r clwb gwyliau yn adnodd angenrheidiol i'r rhan fwyaf o rieni sy'n gweithio.
Yn Lloegr ar hyn o bryd, mae Ofsted yn cynnig trefniant cofrestru gwirfoddol i unrhyw gwmni sy'n gweithio gyda phlant ac sy’n cytuno i lynu wrth ei ganllawiau gofal plant. Yng Nghymru, fodd bynnag, dim ond un opsiwn cofrestru sydd gan AGC ar gyfer darparwyr gofal y tu allan i'r ysgol, sef gwasanaethau sy'n seiliedig ar chwarae a ddarperir mewn lleoliadau parhaol (lle mae’n ofynnol i staff feddu ar gymhwyster gwaith chwarae yn unig, heb unrhyw hyblygrwydd ar gyfer cymwysterau gofal plant eraill).
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd