Deiseb Sicrhau bod gan blant ag alergeddau bwyd fynediad cyfartal i gymorth prydau ysgol am ddim

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu prydau ysgol am ddim i blant ysgolion cynradd. Fodd bynnag, ni all rhai plant ag alergeddau bwyd fwyta'r prydau a ddarperir yn ddiogel.
Rhaid i deuluoedd yn y sefyllfa hon ddarparu pecynnau bwyd ar eu traul eu hunain. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ddarparu talebau bwyd neu gymorth cyfatebol pan na all plentyn gael prydau ysgol am ddim yn ddiogel oherwydd bod ganddo anghenion dietegol â diagnosis meddygol.

Rhagor o fanylion

Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru yn cefnogi teuluoedd gyda’u costau byw. Fodd bynnag, ni all rhai plant gael prydau ysgol yn ddiogel oherwydd alergeddau bwyd neu anghenion deietegol eraill y mae gofyn iddynt eu dilyn am resymau meddygol.
Mae gan fy mab alergedd i datws. Mae cynhwysion tatws yn cael eu defnyddio mewn llawer o fwydydd, ac mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd i ysgolion a darparwyr arlwyo roi sicrwydd bod prydau bwyd yn ddiogel iddo. O ganlyniad, nid oes ganddo’r un hawl â phlant eraill i gael prydau ysgol am ddim.
Rhaid i deuluoedd yn y sefyllfa hon ddarparu pecynnau bwyd ar eu traul eu hunain, er gwaethaf y ffaith eu bod yn gymwys i gael yr un cymorth â disgyblion eraill. Cyflyrau meddygol yw alergeddau bwyd, nid dewisiadau ynghylch ffordd o fyw.
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru adolygu'r mater hwn, casglu data ar blant yr effeithir arnynt, a darparu talebau bwyd neu gymorth ariannol cyfatebol lle na ellir darparu prydau ysgol addas yn ddiogel.

Llofnodi’r ddeiseb hon

12 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon