Deiseb Lleihau llygredd aer drwy gyfyngu ar danau gwersyll/pyllau tân ar safleoedd gwersylla.

Wrth wersylla yng Ngogledd Cymru yn ddiweddar, sylwais ar ansawdd ofnadwy yr aer oherwydd pyllau tân.
Wrth yrru i Barc Cenedlaethol Eryri, roedd yn amlwg ble roedd y safleoedd gwersylla oherwydd y mwrllwch o’r holl danau oedd yn aros yn yr awyr.
Mae Parc Cenedlaethol Eryri hyd yn oed yn nodi y dylai ymwelwyr gyfyngu ar y defnydd o danau gwersyll, felly pam nad oes cyfyngiadau ar safleoedd gwersylla, lle rydych chi mewn man mwy cyfyng? At hynny, gwyddys bod pebyll yn fflamadwy ac mae llawer o bobl yn defnyddio nwy LPG ar gyfer coginio neu gyfarpar arall mewn carafanau.

Rhagor o fanylion

Mae hyn yn rhywbeth y dylid ei reoleiddio gan fod ymdrech fawr yng Nghymru i leihau llygredd aer o allyriadau cerbydau modur a llosgwyr coed mewn cartrefi preswyl ond mae llosgi tanau bron yn cael ei annog wrth wersylla.
Ni allai fy mhartner, sy’n dioddef o asthma, aros y tu allan oherwydd y mwg oedd yn chwythu o gyfeiriad pobl eraill ar y safle a fyddai’n cynnau’r tân ac yna’n mynd i’w pabell neu eu carafán gan adael y tân oherwydd bod gormod o fwg.
Nid wyf am wahardd pyllau tân na thanau gwersyll yn gyfan gwbl gan fod llawer o bobl yn cysylltu hyn â’r profiad gwersylla ond dylid cyflwyno terfyn i ganiatáu i eraill nad ydynt am foddi yn y mwrllwch fwynhau’r awyr iach a chyfyngu ar faint o lygredd aer sydd oherwydd pyllau tân/tanau gwersyll heb eu rheoli.
Rwy’n awgrymu, efallai, fod safleoedd gwersylla yn rheoli tân gwersyll/pwll tân lle gellir dewis y tanwydd a hyd yr amser llosgi er mwyn lleihau’r mwg sy’n cael ei ryddhau.
Byddai hyn yn ychwanegiad gwych at Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.

Llofnodi’r ddeiseb hon

5 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon