Deiseb Ymchwiliad Cyhoeddus Statudol i fethiannau amlasiantaethol ym maes diogelu a llywodraethu mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ymchwiliad Cyhoeddus statudol annibynnol o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 i arferion o ran adrodd, llywodraethu a diogelu plant o fewn awdurdodau addysg yng Ngogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Betsi Cadwaladr a sefydliadau eraill a enwir yn yr adroddiad "Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder". Gyda phwerau i orfodi proses o gasglu tystiolaeth, rhaid i’r Ymchwiliad hwn drafod sut y gwnaeth methiannau systemig ganiatáu i risgiau hysbys a phryderon ynghylch ffiniau gael eu diystyru gan arweinwyr dros ddegawdau.

Rhagor o fanylion

Mae canfyddiadau diweddar yn datgelu methiannau difrifol o ran diogelu plant ym maes addysg yng Ngogledd Cymru. Datgelodd yr Adolygiad Ymarfer Plant, "Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder", fod ysglyfaeth wedi cam-drin plant dros flynyddoedd, o bosibl gan fynd yn ôl i 1979. Cafodd rhybuddion a godwyd yn 2018 eu diystyru gan arweinwyr. Mae materion llywodraethu difrifol yn parhau, gan gynnwys y cwestiwn pam y cafodd yr unigolyn hwn swydd fel pennaeth gweithredol yn 2021 yn dilyn canfyddiad o gamymddwyn gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn 2020.
Nododd datgeliadau cyhoeddus hefyd gamdriniaeth systemig hanesyddol yn uned Canolfan Brynffynnon, gan arwain at iawndal yn cael ei dalu i gyn-ddisgyblion.
Ddegawdau ar ôl Adroddiad Clywch, mae diffygion amalasiantaethol o ran llywodraethu ac atebolrwydd yn parhau i fod heb eu datrys. Nid oes gan adolygiadau anstatudol bwerau cyfreithiol i orfodi proses o gasglu tystiolaeth. Mae Ymchwiliad Cyhoeddus statudol yn hanfodol i ddatgelu pam y cafodd rhybuddion eu hanwybyddu a sicrhau nad yw arferion diffygiol wedi trosglwyddo i arferion ehangach gan sefydliadau partner.

Llofnodi’r ddeiseb hon

14 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon