Deiseb Dylid defnyddio Cymru nid Wales fel yr enw swyddogol ar ein gwlad, a defnyddio un enw yn unig ar gyfer ein henwau lleoedd
Nid Wales yw enw ein cenedl. Ystyr Wales yw 'estroniaid' ac fe'i gorfodwyd arnom, ac mae'n adlewyrchu'n wael pwy ydym ni fel pobl.
A ninnau â Llywodraeth sy'n edrych tuag allan, nawr yw'r amser i ni fynnu ein bwriad ein hunain o ran sut rydym yn cael ein gweld ledled y byd, yn iaith ein cenedl gan ddefnyddio'r enw a ddewiswyd gan ein cenedl.
Nawr hefyd yw'r amser i ni roi'r gorau i ddefnyddio dau enw ar gyfer lleoedd ag enwau Cymraeg dyfnach, hŷn. Gallwn yn synhwyrol gadw rhai enwau ag ystyron hanesyddol deuol a phwysig eraill.
Rhagor o fanylion
Mae safle Cymru ar y llwyfan rhyngwladol yn fach iawn iawn o'i gymharu â'r Alban ac Iwerddon, ond â Llywodraeth newydd mewn grym sy'n edrych tuag allan, mae gennym gyfle i newid hynny.
Mae Twrci a Tsiecia yn enghreifftiau o wledydd sydd wedi newid eu henwau, ac rydym hefyd wedi gweld llwyddiant ein parciau cenedlaethol yn defnyddio enwau Cymraeg ac yn ennill sylw rhyngwladol ehangach.
Cafodd deiseb flaenorol ar y pwnc dros 10,000 o lofnodion ac fe’i hanwybyddwyd gan Lywodraeth Lafur. Roedd y ddeiseb, a grëwyd gan Arfon Jones, yn dweud: Enw sydd wedi ei orfodi ar Gymru yw’r enw ‘Wales’, sydd yn ei hanfod ddim yn air Cymraeg o gwbl. Mae’r byd i gyd bron yn gwybod am Wales oherwydd ei chysylltiad Seisnig a Lloegr ers 1282.
"Nid oes fawr neb yn gwybod am Gymru a bod ganddi iaith a diwylliant unigryw ei hunan sydd yn hollol wahanol i’r gwledydd eraill o fewn y Deyrnas Unedig."
Mae gennym gyfle i ailosod, i ailfrandio ac i adnewyddu ein cenedl a'i dinasoedd, ei threfi a’i phentrefi - byddai hyn yn ddechrau hyderus a gobeithiol.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd