Deiseb Cyfraith Georgia ar gyfer tai diogel brys ar gyfer goroeswyr cam-drin risg uchel
Mae Cyfraith Georgia yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin darpariaeth tai i oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol risg uchel fel mater o ddiogelu brys, nid fel digartrefedd arferol. Gall menywod sy’n gweithio ac nad ydynt yn hawlio budd-daliadau fod mewn perygl difrifol o hyd, ond maent yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gael mynediad at loches, adleoli diogel a thai blaenoriaeth oherwydd eu bod mewn gwaith.
Rhagor o fanylion
Mae’r ddeiseb hon yn seiliedig ar brofiad byw a thystiolaeth ehangach sy’n dangos y gall goroeswyr gael eu gadael mewn perygl pan nad yw systemau tai yn ymateb yn ddigon cyflym i risg hysbys. Ni ddylai menyw sydd wedi’i hasesu fel achos risg uchel gan yr holl wasanaethau - yr heddlu, Cynhadledd Asesu Risg Aml-Asiantaeth, neu wasanaethau Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig neu Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol – gael ei gadael i aros am fisoedd am ddiogelwch, ei lleoli mewn llety dros dro anniogel, neu ei gwrthod rhag llwybrau ymarferol i ddiogelwch oherwydd ei bod yn gweithio ac nad yw’n hawlio budd-daliadau.
Byddai Cyfraith Georgia yn ei gwneud yn ofynnol i ymatebion tai mewn achosion o gam-drin risg uchel gael eu trin fel penderfyniadau diogelu brys. Byddai’n cefnogi adleoli ar frys o fewn dyddiau, nid misoedd; symud rhwng awdurdodau lle nad yw lleoliad lleol yn ddiogel; cyfyngiadau ar lety dros dro anaddas; a neilltuo stoc tai cymdeithasol yn benodol ar gyfer goroeswyr risg uchel a symudiadau ymlaen o lochesi.
Nid yw incwm yn atal trais. Nid yw bod mewn gwaith yn lleihau’r risg gan droseddwr. Pan fo risg yn hysbys, nid yw oedi yn niwtral - beth bynnag fo’r statws ariannol.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd