Deiseb Dylid cyflwyno trwyddedu cryfach ar gyfer llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel yng Nghymru

Gall llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel gefnogi twristiaeth yng Nghymru, ond defnyddir rhai eiddo mawr ar gyfer digwyddiadau, dathliadau ac arosiadau grŵp sy'n achosi sŵn ac aflonyddwch dro ar ôl tro i drigolion cyfagos. Nid yw pwerau cynllunio, pwerau iechyd amgylcheddol na phwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar hyn o bryd bob amser yn caniatáu i gynghorau weithredu'n effeithiol. Mae fframwaith trwyddedu llety ymwelwyr Llywodraeth Cymru yn gyfle i roi pwerau cliriach i gynghorau i osod amodau ac i amddiffyn cymunedau.

Rhagor o fanylion

Ni ddylai trigolion orfod colli cwsg o un penwythnos i’r llall cyn bod gan gynghorau'r grym i weithredu. Ar draws Gogledd Cymru, lleisiwyd pryderon ynghylch llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel yn achosi sŵn ac aflonyddwch dro ar ôl tro, gan gynnwys ger Maenor yr Hen Ysgol yn Helygain a Maenor Môr y Rhos yn Llandrillo-yn-Rhos.

Mae'r achosion hyn yn tynnu sylw at fwlch ehangach yn y gyfraith. Caiff rhai eiddo eu marchnata ar gyfer arosiadau grwpiau mawr, dathliadau a digwyddiadau, ac mae ynddynt gyfleusterau a all arwain at eu bod yn gweithredu'n debycach i leoliadau preifat na llety gwyliau traddodiadol. Ac eto mae’r cynghorau yn aml yn dibynnu ar bwerau cynllunio, ac ar bwerau o ran sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i ymateb, a hynny ar ôl i'r niwed ddigwydd.

Byddai cyfundrefn drwyddedu gryfach yn darparu'r gallu i bennu amodau clir ymlaen llaw, gan gynnwys cynlluniau rheoli sŵn, rheolaethau ar fannau adloniant tu allan, cael rheolwyr cyfrifol enwebedig a sancsiynau effeithiol pan fydd achosion o ailadrodd aflonyddwch difrifol. Byddai hyn yn amddiffyn trigolion, yn cefnogi gweithredwyr cyfrifol ac yn rhoi hyder i gymunedau y gall y system ymateb cyn i broblemau waethygu.

Llofnodi’r ddeiseb hon

4 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon