Deiseb Dylid gwneud y wisg ysgol yn addas i blant chwarae ynddi: Dylid adolygu'r canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion i ganiatáu gwisg ysgol ar gyfer symud yn gyfforddus i bob disgybl hyd at 16 mlwydd oed.
Mae 11.8% o blant mewn dosbarthiadau Derbyn yng Nghymru yn ordew, ac mae hyn yn codi'n raddol i 26% o oedolion sy’n ordew. Rydyn ni'n gwybod fod hon yn broblem, ac eto rydyn ni'n gwneud i blant, ac yn enwedig pobl ifanc, wisgo dillad cyfyngol sy'n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a chwarae achlysurol drwy gydol y dydd. Yn ychwanegol at hyn, gwyddom fod merched yn tueddu i roi'r gorau i chwaraeon yn eu harddegau ond rydym yn mynnu eu bod yn newid eu dillad yn yr ysgol.
Rhagor o fanylion
Mae'r elusen Women in Sport yn crybwyll 'rheoli glasoed benywaidd' fel rheswm pam mae merched yn cymryd rhan mewn llai o chwaraeon o lawer yn yr ysgol uwchradd. Mae ysgolion yn mynnu creu rhwystrau i gyfranogiad, fodd bynnag, drwy orfodi plant i newid o flaen eu cyfoedion er mwyn gwneud ymarfer corff, a hynny yn y cyfnod datblygiadol bregus hwn. Gall hyn greu trawma a chysylltiadau negyddol â chwaraeon.
Mae hyn yn effeithio'n negyddol, nid yn unig ar ferched, ond hefyd ar unrhyw blentyn a allai gael trafferth â thrawsnewidiadau neu â symudiadau manwl, fel rhai â gwahaniaethau niwroddatblygiadol.
Mae gwisgo gwisg gyfyngol y tu allan i wersi Addysg Gorfforol a gemau yn arwain at fod disgyblion yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn ystod egwyl ac amser cinio ac mae’n dileu cyfleoedd ar gyfer symud iach a chwarae. Dylai gwisgoedd ar gyfer symud yn gyfforddus gynnwys esgidiau cyfforddus. Mae gwisgoedd ysgol ar gyfer symud yn gyfforddus wedi'u gwneud o ddefnyddiau cyfforddus sy'n awyru, ac mewn lliwiau tywyllach. Nid ydyn nhw'n gyfyngol o amgylch y gwddf ac mae ganddyn nhw doriad llac i alluogi symudiadau rhwydd. Maent yn gadarn, yn hawdd eu glanhau ac yn rhad i'w hadnewyddu. Mae gwisg ysgol ar gyfer symud yn gyfforddus bob amser yn lleihau'r rhwystrau i blant redeg, neidio, rholio, dringo, darganfod a symud mewn cynifer o ffyrdd â phosibl.
Cyfeirnodau:
https://ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymchwil/y-cynnydd-mewn-gordewdra-rhywbeth-i-gnoi-cil-arno/
https://womeninsport.org/news/more-than-1-million-teenage-girls-fall-out-of-love-with-sport/
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd