Deiseb Cyflwyno archwiliadau iechyd gorfodol ar gyfer yr IUD bob dwy flynedd yng Nghymru

Rwy’n rhoi’r ddeiseb hon ar waith ar ôl profi hunllef waethaf pob rhiant. Yn dilyn chwe blynedd gydag IUD yn ei le, fe ymgorfforodd yn wal fy nghroth heb i mi wybod. Fe wnes i feichiogi ac yn ddiweddarach cefais gamesgoriad septig ar ôl 17 wythnos, gan golli fy mabi.
Cefais gyfarwyddyd i wirio fy llinynnau, ond nid oedd y cyngor hwnnw ar ei ben ei hun yn ddigon, ac ni fyddai wedi bod yn ddigon unrhyw bryd imi atal yr hyn oedd i ddod.
Gallai adolygiadau rheolaidd gan weithiwr proffesiynol fod wedi helpu i atal y golled a'r trawma a ddilynodd.

Rhagor o fanylion

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno archwiliadau IUD gorfodol bob dwy flynedd drwy gydol oes y ddyfais.
Yn aml, cynghorir menywod i “wirio eu llinynnau” ar ôl gosod yr IUD, ond efallai na fydd hyn ar ei ben ei hun yn nodi cymhlethdodau fel dadleoli, mewnosod, mudo, neu fethiant atal cenhedlu.
Byddai adolygiadau rheolaidd bob yn ail flwyddyn yn gyfle i gymryd y camau canlynol:
Cadarnhau fod yr IUD yn parhau i fod yn y safle cywir ac yn gweithredu fel y bwriadwyd;
nodi cymhlethdodau’n gynnar, er mwyn osgoi canlyniadau difrifol;
lleihau'r risg o feichiogrwydd anfwriadol a cholli beichiogrwydd;
darparu addysg barhaus am rybuddion a symptomau;
gwella diogelwch a hyder cleifion o ran dulliau atal cenhedlu hirdymor.
Ni ddylai unrhyw fenyw orfod profi trawma y gellir ei atal, colli beichiogrwydd, haint, na chymhlethdodau difrifol eraill yn sgil diffyg sesiynau dilynol arferol. Byddai cyflwyno adolygiadau IUD rheolaidd yn helpu i nodi problemau yn gynt, gan wella canlyniadau a chryfhau gofal iechyd menywod ledled Cymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

84 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon