Deiseb Rhoi’r gorau i bob datblygiad ar fawndiroedd ledled Cymru!
Mae mawndiroedd yng Nghymru yn darparu storfa carbon bwysig, maen nhw’n storio 30% o’n carbon ar y tir. Maent yn hanfodol o ran ein goroesiad: mae mawndiroedd iach yn storio mwy o garbon na holl goedwigoedd y byd gyda’i gilydd.
Maent hefyd yn darparu cynefin hanfodol i blanhigion, anifeiliaid, adar a phryfed, ac yn helpu i atal llifogydd yn wyneb tywydd cynyddol anwadal. Ni ellir symud nac ail-greu mawndir; unwaith y bydd wedi’i ddarnio neu ei ddinistrio, mae’n cael ei golli.
Mae mawndiroedd hanfodol Cymru mewn perygl oherwydd
•plannu coed ar gyfer coedwigaeth fasnachol,
•datblygiadau ffermydd gwynt mawr (megis Waun Hesgog a Lluest y Gwynt ym Mynyddoedd Cambria, sy’n ceisio caniatâd ar hyn o bryd),
•defnydd cynyddol o gerbydau oddi ar y ffordd,
•tanau gwyllt,
• adeiladu ffyrdd,
•llosgi tymhorol.
Mae datgarboneiddio ynni a chynyddu gorchudd coed yn bwysig ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ond ni all hynny fod ar draul mawndir!
Mae’r 60 neu fwy o ddatblygiadau adnewyddadwy diwydiannol ar raddfa fawr a gynigir yn bygwth tua 36% o adnodd mawndir Cymru.
Rhagor o fanylion
Rhaid amddiffyn ac adfer pob mawndir yng Nghymru fel mater o flaenoriaeth frys yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Mae echdynnu mawn ar gyfer gerddi wedi'i wahardd, nawr mae’n rhaid inni atal cyfeintiau llawer mwy rhag cael eu dinistrio gan y gweithgareddau eraill hyn.
Cyflwynir y ddeiseb hon gan ymgyrchwyr cymunedol, Grŵp Gweithredu Waun Hesgog, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a Chymdeithas Mynyddoedd Cambria.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd