Deiseb Gwella cyfleoedd cyflogaeth Band 5 i nyrsys sydd newydd gymhwyso yng Nghymru

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu sy'n cynnig digon o gyfleoedd Band 5 i nyrsys sydd newydd gymhwyso ac sy'n graddio yng Nghymru, fel bod myfyrwyr sy’n cael eu hyfforddi yng Nghymru yn cael cyfle teg i ddechrau eu gyrfaoedd yn GIG Cymru.

Rhagor o fanylion

Mae nyrsys sy’n astudio yng Nghymru yn cwblhau dros 2,300 o oriau ar leoliadau clinigol ac yn ymrwymo i flynyddoedd o hyfforddiant. Mae llawer yn cydbwyso lleoliadau di-dâl gyda gwaith â thâl ac ymrwymiadau teuluol oherwydd eu bod nhw eisiau gwasanaethu GIG Cymru.

Er gwaethaf hyn, mae llawer o nyrsys sydd newydd gymhwyso yn ei chael hi'n anodd sicrhau swyddi Band 5 ar ôl graddio. Mae hyn yn peri risg o golli gweithwyr proffesiynol medrus i rannau eraill o'r DU neu i yrfaoedd eraill, er mai Cymru sy’n buddsoddi yn eu haddysg.

Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda GIG Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a byrddau iechyd i wella’r broses o gynllunio'r gweithlu a chreu digon o gyfleoedd i nyrsys sydd newydd gymhwyso ddechrau eu gyrfaoedd yng Nghymru.

Fel nyrs yn y flwyddyn olaf o astudio, rwy'n bryderus iawn, ar ôl blynyddoedd o hyfforddiant ac aberth, y gallai llawer o raddedigion fod yn methu â dechrau eu gyrfaoedd yn y GIG yng Nghymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

29 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon