Deiseb Cymryd camau brys fel nad yw’r rhai sydd ag Enseffalomyelitis Myalgig Difrifol yng Nghymru yn cael eu gadael heb ofal meddygol hanfodol mwyach

Mae’r gwasanaethau a ddarperir i bobl sydd ag Enseffalomyelitis Myalgig (ME) yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. Yn benodol, mae pryderon mawr o hyd ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael i’r rhai sydd â’r ffurf ddifrifol ar y cyflwr. Mae hyn yn gadael rhai teuluoedd sy’n wynebu penderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd heb arweiniad meddygol.

Mae dioddefwyr yn gorfod aros mewn ystafelloedd tywyll; mae angen gofal 24 awr y dydd arnynt; ac mae rhai yn methu siarad, bwydo eu hunain, goddef golau neu sain, neu hyd yn oed eistedd i fyny.

Bydd camau arfaethedig yn sicrhau bod pobl sydd ag ME Difrifol yn gallu cael gafael ar ofal meddygol diogel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynyddu’r posibilrwydd o wella.

Rhagor o fanylion

Rydym yn pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau bod y rhai sydd mewn angen dirfawr yn cael cymorth brys a hirdymor.

Dyma’r camau gweithredu a luniwyd ar y cyd gan y cyrff a ganlyn: Severe ME Difrifol Cymru (SMEDC), Cymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru (WAMES), Action for ME (AfME), Long Covid Support (LC Support).

1. Creu Grŵp Arbenigol Cenedlaethol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw i gydweithio i lunio Strategaeth a Chynllun Cyflawni Cymru Gyfan ar gyfer ME a Covid Hir, gan sicrhau tegwch gwasanaethau a chydymffurfedd â chanllawiau NICE (NG206 ME/CFS), ar draws pob oedran a phob lefel difrifoldeb.

2. Penodi Arweinydd/Arweinwyr Clinigol / Ymgynghorydd/Ymgynghorwyr Meddygol Cymru Gyfan ar gyfer ME a Covid Hir i gydlynu gofal ar draws byrddau iechyd, lleihau amrywiadau rhanbarthol, cefnogi achosion cymhleth, ac arwain hyfforddiant a thriniaeth, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i gyd-fynd ag ymchwil ddatblygol.

3. Datblygu Strategaeth Ymchwil ME/CFS a Covid Hir i gyflymu’r gwaith ymchwil a wneir yng Nghymru drwy’r Sector Gwyddorau Bywyd / Hwb Gwyddorau Bywyd erbyn 2027.

4. Ystyried canlyniadau hirdymor mewn strategaethau cynllunio/atal pandemig yn y dyfodol, gan adolygu canllawiau ynghylch Atal a Rheoli Heintiau.

Llofnodi’r ddeiseb hon

35 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon