Deiseb Dylid adolygu’r Cynllun Trwyddedu Gweithdrefnau Arbennig yng Nghymru i amddiffyn bywoliaeth pobl a diogelwch y cyhoedd
Mae cynllun trwyddedu newydd Cymru yn creu rhwystrau i aciwbigwyr, tatŵyddion, ymarferwyr colur lled-barhaol / microlafnu, ac ymarferwyr electrolysis a thyllu hunangyflogedig sy'n rhentu ystafelloedd triniaeth. Gall busnesau sy’n eu cynnal wynebu costau cymeradwyo safleoedd, a chyfrifoldeb o ran hyfforddiant a rheoleiddio er nad ydynt yn cyflawni'r triniaethau. Gall hyn arwain at fod ymarferwyr cymwys heb weithleoedd addas, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.
Rhagor o fanylion
Rydym yn cefnogi rheolaeth gref ar heintiau ond eisiau system fwy cymesur.
Rydym yn cefnogi safonau cadarn ar gyfer rheoli heintiau, ond gall y cynllun presennol atal ymarferwyr rhag cael gafael ar weithleoedd addas. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno model ystafell driniaeth ddynodedig fel y gall ymarferwyr trwyddedig gymryd cyfrifoldeb am sicrhau ystafell sy’n cydymffurfio â’r rheolau o fewn busnes arall, tra bod archwiliadau, golchi dwylo, arwynebau glanadwy, eitemau miniog a rheolaethau gwastraff yn parhau yn orfodol.
Mae angen llwybr cymesur hefyd ar gyfer lleoliadau dros dro/cymunedol, a Chydnabyddiaeth Dysgu Blaenorol pan mae hyfforddiant rheoli heintiau a gyflawnwyd eisoes yn bodloni'r safon.
Mae aciwbigo symudol yn codi anghysondeb clir: gall ymarferwyr asesu risg cartrefi anghyfarwydd, ond eto beidio â gallu defnyddio ystafell glinigol bwrpasol oherwydd na fydd y busnes ble y’i lleolir yn ymgymryd â thrwyddedu’r safle.
Dylid adolygu'r effaith economaidd ar hunangyflogaeth, ar wasanaethau gwledig, ar fusnesau rhentu ystafelloedd ac ar gostau llesiant.
Mae Lloegr yn datblygu trwyddedu ar gyfer triniaethau cosmetig anfeddygol, felly mae gwersi a ddysgir yng Nghymru yn bwysig ledled y DU.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd