Deiseb Sefydlu cysylltiadau partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chiwba a Venezuela

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau a ganlyn:
Datblygu cysylltiadau partneriaeth diwylliannol, addysgol, meddygol a chymunedol ffurfiol â Chiwba a Venezuela, gan ddilyn model partneriaethau presennol Cymru gyda Lesotho ac Uganda, o dan gynllun Dolen Cymru. Dylai hyn gynnwys cyfleoedd ar gyfer cyfnewid athrawon a gweithwyr iechyd, cydweithio diwylliannol, a meithrin cysylltiadau rhwng cymunedau.

Rhagor o fanylion

Mae gan Gymru draddodiad 40 mlynedd o ddatblygu cysylltiadau partneriaeth rhyngwladol ffurfiol, wedi’u hariannu gan y Llywodraeth a’u darparu drwy gynllun Dolen Cymru a rhaglen Cymru ac Affrica. Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Lesotho, a lansiwyd ym 1985, wedi arwain at leoli dros 50 o athrawon o Gymru yn Lesotho. Mae hefyd wedi cefnogi gweithgarwch partneriaeth a chyfnewid yn y GIG, ac wedi arwain at gydweithio diwylliannol ac addysgol rhwng y ddwy genedl. Mae partneriaeth debyg yn bodoli gydag Uganda.

Mae'r cysylltiadau hyn yn gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig Llywodraeth Cymru. Er bod cysylltiadau rhyngwladol fel arfer wedi'u cadw yn ôl gan Senedd y DU, mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i drefnu cytundebau partneriaeth nad ydynt yn rhwymol â Llywodraethau eraill mewn meysydd datganoledig, megis addysg, iechyd a diwylliant, ac i gynnal cyfarfodydd gyda chymheiriaid o genhedloedd eraill.

Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymestyn y model partneriaeth sefydledig, anwleidyddol hwn i Giwba a Venezuela, er mwyn meithrin cysylltiadau rhwng pobl mewn ardaloedd datganoledig, cyfnewid athrawon, a chydweithio ym meysydd iechyd a diwylliant, fel y mae eisoes yn ei wneud gyda Lesotho.

Llofnodi’r ddeiseb hon

6 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon