Deiseb Cryfhau codau a chanllawiau statudol i wella diogelwch a chymorth i blant awtistig ledled Cymru

Atal niwed y gellir ei osgoi a gwella diogelwch i blant awtistig drwy well ymwybyddiaeth, addysg am ddiogelwch dŵr, dyfeisiau diogelwch gwirfoddol a gwell cymorth gan wasanaethau brys a rheng flaen. Dylid cryfhau’r canllawiau presennol - gan gynnwys y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth a chanllawiau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - i asesu anghenion a mynd i’r afael â risgiau diogelwch i’r plant nad ydynt mor ymwybodol o berygl.

Byddai hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i deuluoedd wrth barchu preifatrwydd ac annibyniaeth plant.

Rhagor o fanylion

• Datblygu safonau gofynnol, gyda chyllid neu gymorth cydgysylltiedig i roi’r un cymorth diogelwch ni waeth ble rydych chi’n byw.
• Sicrhau hyfforddiant cyson ar gyfer sefyllfaoedd brys neu sefyllfaoedd sy’n ymwneud â diogelu: ar gyfer staff addysg, gwasanaethau iechyd ac ambiwlans, darparwyr cyfleusterau hamdden a staff rheng flaen eraill. Dylai hyfforddiant gwmpasu gwahaniaethau o ran cyfathrebu, gorlwytho synhwyraidd, colli rheolaeth yn llwyr, diffyg ymwybyddiaeth o berygl, crwydro, a sut i ddynesu at blentyn awtistig a’i gefnogi yn ddiogel.
• Sicrhau mynediad cyfartal at gyfleoedd cenedlaethol o ran nofio a diogelwch dŵr gan gynnwys y rhaglen nofio a diogelwch dŵr i ysgolion. Gallai addasiadau rhesymol priodol gynnwys grwpiau llai, sesiynau tawelach, cymorth ychwanegol neu hyfforddwyr sy’n ymwybodol o awtistiaeth.
• Datblygu cynllun gwirfoddol ar gyfer plant sydd mewn perygl arbennig, ee dyfeisiau GPS neu dechnoleg arall, a dulliau adnabod diogelwch am ddim neu â chymhorthdal - cardiau neu freichledau sy’n cynnwys gwybodaeth hanfodol. Pob un gyda chaniatâd priodol a mesurau diogelu preifatrwydd a data.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda gwasanaethau perthnasol, pobl awtistig, rhieni a gofalwyr i ddatblygu dull cyson o weithredu ar gyfer Cymru gyfan.

Llofnodi’r ddeiseb hon

111 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon