Deiseb Dyrannu 10% o’r gyllideb drafnidiaeth i seilwaith beicio o'r safon orau yn y byd drwy Drafnidiaeth Cymru

Mae Cymru wedi gwneud deddfwriaeth arloesol drwy'r Ddeddf Teithio Llesol. Fodd bynnag, mae cynnydd ar seilwaith beicio wedi dod i ben oherwydd diffyg buddsoddi cynaliadwy a gwaith cynllunio araf. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i ddyrannu o leiaf 10% o’r gyllideb drafnidiaeth ar seilwaith beicio, gan ei gwneud yn ofynnol i gynghorau weithio gyda changen newydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) i adeiladu seilwaith beicio parhaus o ansawdd uchel i’r safonau gorau yn y byd, gan gynnwys egwyddorion CROW yr Iseldiroedd.
Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithio gyda chynghorau a chymdeithasau tai i ddatblygu rhai darpariaethau teithio llesol, ond nid ydynt yn adeiladu nac yn cynnal a chadw'r rhan fwyaf o lwybrau beicio yng Nghymru. Drwy ddatblygu adran seilwaith feicio newydd o fewn TrC, un y mae'n ofynnol i gynghorau gydweithio â hi wrth gynnal a chadw priffyrdd ac uwchraddio ein rhwydwaith ffyrdd, credwn y gallwn sicrhau seilwaith beicio wedi'i ariannu'n llawn ac wedi'i integreiddio'n iawn ar bob cyfle - gyda TrC yn darparu'r cyllid, a’r arbenigedd angenrheidiol o ran cynllunio ac adeiladu o dan un to ac o fewn cyllideb y llywodraeth.

Rhagor o fanylion

Mae Llawlyfr Dylunio CROW ar gyfer Traffig Beiciau yn ddogfen uchel ei pharch y cyfeirir ati ledled y byd, a chaiff ei defnyddio’n ddyddiol gan gynllunwyr trafnidiaeth yn yr Iseldiroedd i integreiddio seilwaith beicio yn effeithiol fel prif ffurf o gludiant. Mae Llysgenhadaeth Beicio'r Iseldiroedd yn argymell bod gwledydd yn dilyn y 5 egwyddor i adeiladu seilwaith beicio o'r safon orau yn y byd: https://dutchcycling.nl/expertises/cycling-infrastructure/

Llofnodi’r ddeiseb hon

16 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon