Deiseb Dylid ôl-ddyddio gostyngiadau’r dreth gyngor o ran dementia i’r dyddiad ardystio gan Feddyg Teulu

Dim ond os oes ganddynt dystysgrif feddygol a'u bod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol y caiff pobl â dementia eu 'diystyru' (peidio â’u cyfrif) o ran y dreth gyngor. Mae cyfnodau aros hir am rai budd-daliadau, ac felly mae llawer o bobl â dementia yn gorfod aros am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i fod yn gymwys ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor.

Rhagor o fanylion

Rydym am i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol bod diystyriadau o ran y dreth gyngor yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y cafodd person ardystiad gan y meddyg teulu fel rhywun â Nam Meddyliol Difrifol, pan fydd yr unigolyn wedyn yn mynd ymlaen i fod yn gymwys i gael budd-dal perthnasol. Goblygiadau hyn ddylai fod, bod pobl â dementia yn cael gostyngiadau ychwanegol yn y dreth gyngor am gyfnodau hwy, a allai arbed miloedd o bunnoedd iddynt o ran eu bil treth gyngor.

Mae dros 27,000 o bobl yng Nghymru â dementia yn cael gofal yn eu cartrefi. Rydym ni o’r farn fod y rheolau presennol yn annheg, a bod angen eu diwygio.

Mae’r deisebwyr felly yn gofyn i’r Senedd annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol bod diystyriadau o ran y dreth gyngor yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y cafodd person ardystiad gan y meddyg teulu fel rhywun â Nam Meddyliol Difrifol, pan fydd yr unigolyn wedyn yn gymwys i gael budd-dal perthnasol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

8 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon