Deiseb Datblygu Cynllun Iechyd Dynion i Gymru

Mae dynion yng Nghymru yn wynebu anghydraddoldebau iechyd sylweddol, gan gynnwys disgwyliad oes is a chyfraddau marwolaeth cynnar yn sgil llawer o achosion blaenllaw.

Hefyd gall dynion fod yn llawer llai tebygol o droi at wasanaethau iechyd a chael cymorth pan fydd ei angen arnynt.

Gallai Cynllun Iechyd Dynion cydgysylltiedig fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn, helpu i atal problemau ac ymyrryd yn gynnar, a sicrhau bod gwasanaethau’n gwneud yn well o ran diwallu anghenion dynion ledled Cymru.

Rhagor o fanylion

Dylai Cynllun Iechyd Dynion fabwysiadu dull cyfannol at iechyd corfforol a meddyliol dynion, gan gydnabod y rhyng-gysylltiad rhwng yr elfennau hyn.

Dylai ystyried meysydd fel iechyd meddwl ac atal hunan-laddiad, canser a chlefyd cardiofasgwlaidd, camddefnyddio sylweddau, ffyrdd iach o fyw, ynysu cymdeithasol, mynediad at ofal iechyd, a phenderfynyddion cymdeithasol ehangach o ran iechyd.

Dylai’r Cynllun nodi’r anghydraddoldebau y mae gwahanol ddynion yn eu hwynebu a gosod blaenoriaethau clir a chamau gweithredu mesuradwy ar gyfer gwella canlyniadau. Dylai’r gwaith o’i ddatblygu gynnwys dynion, gweithwyr iechyd proffesiynol, ymchwilwyr a sefydliadau perthnasol y trydydd sector.

Mae gwledydd fel Iwerddon, Awstralia a Lloegr wedi datblygu strategaethau cenedlaethol ar gyfer iechyd dynion, ac mae Canada a Seland Newydd yn datblygu dulliau tebyg.

Gall a dylai Cymru ddysgu o’r enghreifftiau hyn a datblygu cynllun sy’n addas i anghenion dynion yng Nghymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

24 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon