Deiseb Amddiffyn ffrwythlondeb menywod sydd ag endometriosis lle mae eu ffrwythlondeb mewn perygl

Mae endometriosis yn effeithio ar oddeutu 1 o bob 10 o fenywod a gall effeithio’n sylweddol ar eu ffrwythlondeb. Gall y problemau y mae menywod yn eu hwynebu gynnwys nifer yr wyau sydd ganddynt wrth gefn, niwed i’w hofarïau a dirywiad cynnar o ran eu ffrwythlondeb, a gall triniaeth a llawdriniaeth effeithio ymhellach ar eu potensial i atgenhedlu. Ac eto nid yw GIG Cymru yn ariannu, fel mater o drefn, y broses o rewi wyau menywod ag endometriosis sydd mewn perygl o golli eu ffrwythlondeb. Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod endometriosis fel rhywbeth sy’n peryglu ffrwythlondeb, a darparu mynediad teg at wasanaethau diogelu ffrwythlondeb.

Rhagor o fanylion

Gall endometriosis fygwth ffrwythlondeb drwy endometriomâu ofaraidd, llai o wyau wrth gefn a niwed a achosir gan lawdriniaeth. Mae ESHRE yn argymell trafod diogelu ffrwythlondeb gyda menywod ag endometriosis ofaraidd helaeth, ac mae NICE yn cydnabod yr angen i ystyried ffrwythlondeb a nifer yr wyau wrth gefn wrth reoli’r cyflwr.

Yng Nghymru, gall gymryd bron 10 mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis, sy’n golygu bod y clefyd yn datblygu am flynyddoedd mewn rhai menywod cyn iddynt gael gofal arbenigol. Ac eto nid yw GIG Cymru yn ariannu, fel mater o drefn, y broses o rewi wyau menywod sydd mewn perygl o golli eu ffrwythlondeb oherwydd endometriosis.

Mae’r ddeiseb hon yn galw am lwybr GIG Cymru ar sail tystiolaeth, sy’n darparu asesiad ffrwythlondeb ac, lle bo’n glinigol briodol, arian cyhoeddus i rewi wyau menywod sydd mewn perygl sylweddol o golli eu ffrwythlondeb.

Llofnodi’r ddeiseb hon

164 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon