Deiseb Galw am ymchwiliad i agweddau ac arferion sy'n gysylltiedig ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn awdurdodau lleol yng Nghymru
Amcan yr ymchwiliad hwn fyddai cydnabod yn gyhoeddus gamweddau awdurdodau lleol o ran eu hymddygiad ynghylch materion sy'n gysylltiedig ag ADY ym maes addysg. Yn dilyn y datgeliadau diweddar gan chwythwr chwiban o awdurdod lleol, yn ogystal â'r problemau sydd eisoes yn wybyddus yn eang ymhlith rhieni plant ag ADY gydag awdurdodau lleol ac ysgolion, mae angen i'r llywodraeth gydnabod yn gyhoeddus gwmpas y problemau hyn a'u heffaith, fel bod modd gwella safonau.
Rhagor o fanylion
Mae eisoes yn hysbys o fewn y gymuned anghenion dysgu ychwanegol fod awdurdodau lleol ac ysgolion yn esgeuluso eu cyfrifoldebau i roi darpariaethau digonol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r sefydliadau hyn, nid yn unig yn esgeuluso eu dyletswyddau, ond credwn eu bod yn gwneud hynny drwy ddulliau gelyniaethus ymwybodol neu ddulliau trin o ran emosiwn, er mwyn achosi'r gofid mwyaf i rieni/gofalwyr a phlant ag ADY. Mae’r problemau hefyd yn cynnwys: defnyddio iaith enllibus, iaith ymosodol, neu iaith ddiraddiol yn uniongyrchol neu'n gudd tuag at rieni/gofalwyr ADY, yn ogystal ag ymddygiad bygythiol a bwlio drwy gyfathrebiadau gweinyddol (e.e. llythyrau ysgol yn cyrraedd ar benwythnosau i achosi'r gofid a'r aflonyddwch mwyaf i fywyd teuluol).
Mae pawb yn y gymuned ADY yn gwybod am y niwed y mae'r system bresennol yn ei hachosi i deuluoedd, yn enwedig i blant mewn addysg brif ffrwd, ac rydym wedi cael digon ar gael ein tanseilio nes y teimlwn mai ni yw'r broblem. Mae'r system yn ddrylliedig ac mae angen iddi newid, fel bod pob plentyn yn cael addysg deg.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd