Deiseb Dylid ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gryfhau cyfreithiau llygredd afonydd, profion annibynnol a phrofion amser real

Roedd cynigion Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2026 ar gyfer llywodraethu dŵr yn gam i’w groesawu tuag at sicrhau bod ein hafonydd yn lanach, bod rheoleiddio cryfach a bod gwell atebolrwydd ar waith. Mae angen rhagor o weithredu ledled Cymru, fodd bynnag. Gall llygredd ddigwydd rhwng samplau wedi'u hamserlennu, tra gall cwmnïau ac eraill sy’n drwyddedig i ollwng dŵr fonitro eu gollyngiadau eu hunain. Mae angen gwirio annibynnol cryfach ar Gymru, canfod cyflymach a rhybuddion cyhoeddus tryloyw pan fydd llygredd yn arwain at fod dŵr yn anniogel.

Rhagor o fanylion

Mae'r ddeiseb hon yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau afonydd glanach, rheoleiddio cryfach a gwell atebolrwydd, ond mae'n galw am gamau mwy pendant ledled Cymru.

Ni ddylai cwmnïau, ffatrïoedd, ffermydd a sefydliadau eraill sydd â chaniatâd i ollwng dŵr i ddyfroedd Cymru ddibynnu'n llwyr ar eu profion eu hunain. Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru neu labordai annibynnol achrededig gynnal gwaith samplu a gwiriadau rheolaidd a heb rybudd, ac archwilio gollyngiadau, yn enwedig mewn safleoedd risg uwch.

Dylai Cymru arolygu’n fwy aml, a phan fo’n ymarferol, monitro afonydd a dyfroedd mewndirol yn barhaus, a chyhoeddi rhybuddion cyhoeddus cyflym pan fydd llygredd yn arwain at fod dŵr yn anniogel. Dylai'r Llywodraeth adolygu a yw dosbarthiadau hanesyddol neu ddosbarthiadau treigl yn amddiffyn yn ddigonol bobl sy'n defnyddio dŵr ar ddiwrnod penodol.

Dylai data monitro fod yn dryloyw ac ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd, a dylid sicrhau gwell gorfodaeth o ran torri rheolau. Dylai'r camau hyn fod yn gymwys yn gyson ledled Cymru, waeth beth fo'r lleoliad neu ffynhonnell y llygredd.

Llofnodi’r ddeiseb hon

21 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon