Deiseb Ailgychwyn llawdriniaethau cadarnhau rhywedd ar unwaith a diogelu cleifion Gwasanaeth Rhywedd Cymru'r GIG.

Rydym yn galw ar y Senedd a Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i wneud y canlynol:

Ailgychwyn ar unwaith y llawdriniaethau cadarnhau rhywedd hynny a oedd wedi cael eu trefnu a'u cymeradwyo ar gyfer cleifion sydd eisoes wedi cwblhau asesiadau.

Sicrhau bod unrhyw adolygiad clinigol parhaus yn cael ei gynnal ar yr un pryd, a hynny heb amharu ar ofal cleifion gweithredol, sefydledig.

Cyhoeddi cylch gorchwyl clir a thryloyw ac amserlen bendant ar gyfer yr adolygiad annibynnol o Wasanaeth Rhywedd Cymru

Rhagor o fanylion

.Ar 24 Awst 2026, gwnaeth Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru uwchgyfeirio Gwasanaeth Rhywedd Cymru i lefel 3 ar gyfer "Gwasanaeth sy'n Peri Pryder", gan atal ar unwaith ac yn ddiwahân bob atgyfeiriad llawfeddygol, pob asesiad a phob llawdriniaeth drefnedig a oedd yn ymwneud â chadarnhau rhywedd.
Cymerwyd y penderfyniad hwn yn sgil pwysau gwleidyddol allanol a sylwadau trydydd parti ynghylch nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer un categori llawfeddygol (llawdriniaeth i wryweiddio’r frest). Fodd bynnag, ymatebodd y corff comisiynu drwy gau’r llwybr llawfeddygol yn llwyr, gan atal triniaethau hollol wahanol—gan gynnwys llawdriniaethau benyweiddio a thriniaethau adlunio organau cenhedlu—ar gyfer cleifion heb unrhyw gysylltiad â’r ystadegau dan sylw.
Mae canslo ar fyr rybudd lawdriniaethau meddygol angenrheidiol a oedd wedi cael eu cymeradwyo ymlaen llaw yn achosi trawma seicolegol difrifol i gleifion agored i niwed sydd wedi bod yn aros, yn hollol ddidwyll, ers blynyddoedd. Rhaid i waith craffu gweinyddol ac adolygiadau clinigol gael eu cynnal ochr yn ochr â gofal parhaus, nid ar draul diogelwch cleifion, ymreolaeth gorfforol, ac urddas dynol sylfaenol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

1,146 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon