Deiseb Ysbyty Cyffredinol ar gyfer Powys
Powys yw'r sir fwyaf yng Nghymru ac mae'n sir wledig yn bennaf, sy'n dibynnu llawer ar hyn o bryd ar Fyrddau Iechyd y tu allan i'r sir.
Ar hyn o bryd rydym yn ymwybodol o oedi mewn darpariaeth drawsffiniol ac anawsterau ariannu; a gostyngiadau o ran oriau mewn unedau mân anafiadau.
Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn ystyried awgrymiadau a dulliau o arbed £23 miliwn.
Gallai'r cynigion hyn arwain at ostyngiad yn y ddarpariaeth ofal yn y sir. DYLEN NI FOD YN EDRYCH AR GYNYDDU’R DDARPARIAETH NID GOSTYNGIAD.
Rhagor o fanylion
Ar hyn o bryd nid oes gan Bowys fel sir unrhyw ddarpariaeth ysbyty cyffredinol.
Mae pob mater brys a gofal iechyd mawr yn cael ei drin y tu allan i'r sir.
Gyda’r cyfrif gwelyau y pen ar hyn o bryd yn tua 1.2 fesul 1,000 o drigolion, mae hyn yn hanner cyfartaledd y DU o 2.4. Mae'n debygol y bydd y ddarpariaeth hon mewn gwelyau yn lleihau ymhellach os daw'r cynnig gofal iechyd dwy uned i rym. (Y Drenewydd ac Aberhonddu).
Byddai Ysbyty Cyffredinol:
yn cynyddu'r ddarpariaeth gwelyau ym Mhowys, yn lleihau amseroedd teithio.
yn lleihau'r ddibyniaeth ar welyau y tu allan i'r sir.
hefyd yn lleihau'r prinder gwelyau presennol yn y sir sydd ar hyn o bryd yn blocio gwelyau mewn byrddau iechyd eraill, oherwydd prinder gwelyau ym Mhowys.
Cyfaddefiad y Bwrdd ei hun yw bod angen 400 o welyau ar y sir, ac ar hyn o bryd mae tua 160!!!
Os byddai'n cael ei weithredu’n gywir, efallai y gallai’r Bwrdd hyd yn oed gynnig lle mewn gwelyau i fyrddau iechyd cyfagos y mae pob ysbyty yn erfyn amdano, gan gynhyrchu incwm!!
Dylen ni fod yn chwilio am resymau pam y dylid cynyddu darpariaeth gofal iechyd Powys.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd