Deiseb Ystyried hyblygrwydd yn y cynllun gofal plant 12.5 awr a ariennir ar gyfer pob plentyn 2 oed ledled Cymru.

Fel rhieni sy’n gweithio ac sy’n defnyddio darpariaeth ffurfiol meithrinfa ddau ddiwrnod yr wythnos yn unig, mae'r rheol gofal plant 12.5 awr bresennol yn gwbl anhygyrch.

Mae cyfyngu oriau a ariennir i slotiau dyddiol anhyblyg o 2.5 awr, dros bum niwrnod, yn ein gorfodi i gynyddu oriau meithrinfa neu golli ein hawl i ofal plant.

Mae’r polisi’n siomi teuluoedd sy’n gweithio drwy wrthod gadael i’r oriau hanfodol hyn a ariennir gael eu cywasgu i’n hamserlenni meithrin presennol.

Rhagor o fanylion

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r canllawiau statudol ar gyfer cynlluniau gofal plant a ariennir, yn benodol Dechrau’n Deg, er mwyn caniatáu i'r 12.5 awr wythnosol gael eu darparu’n hyblyg, yn hytrach na’u cyfyngu i 2.5 awr y dydd dros 5 diwrnod.

Mae'r strwythur 5 diwrnod anhyblyg presennol yn gorfodi rhieni sy’n gweithio i anfon eu plant i feithrinfa am 5 diwrnod yr wythnos, dim ond i gael mynediad at eu hawl gyfreithiol.

Mae’r cynllun yn cosbi teuluoedd sy’n defnyddio meithrinfa 4 diwrnod neu lai yr wythnos, ac sy’n gweithio ochr yn ochr â phatrymau sifftiau hyblyg y byd gwaith modern.

Byddai caniatáu i awdurdodau lleol a darparwyr gael y rhyddid i gywasgu'r 12.5 awr hyn i lai o ddiwrnodau, a rhai hirach, yn cael gwared ar y rhwystrau hyn.

Bydd yn sicrhau y gall rhieni sy’n gweithio ddefnyddio’r gofal a’r gefnogaeth a ariennir, sydd ar gael iddynt, i’r eithaf, er mwyn sicrhau sefydlogrwydd economaidd yr aelwyd. Rydym o’r farn y byddai gwneud hynny yn annog canlyniadau datblygiadol cryfach i blant. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i foderneiddio’r polisi hwn i gefnogi bywyd gwaith cyfoes.

Llofnodi’r ddeiseb hon

45 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon