Deiseb Goruchwyliaeth Annibynnol a Safonau Cryfach ynghylch Tystiolaeth yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Mae angen safonau cryfach ynghylch tystiolaeth, dull tryloyw o gadw cofnodion a goruchwyliaeth wirioneddol annibynnol ar y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen diwygiadau i sicrhau bod penderfyniadau sy'n effeithio ar blant a theuluoedd yn atebol, yn cydymffurfio â hawliau, yn ystyriol o drawma ac yn seiliedig ar dystiolaeth gywir a fu’n destun gwaith craffu priodol.
Rhagor o fanylion
Mae'r prif newidiadau sydd eu hangen i gryfhau fframwaith y gwasanaethau cymdeithasol yn cynnwys:
• Safonau clir ynghylch tystiolaeth sy'n gwahaniaethu rhwng ffeithiau sydd wedi eu dilysu, honiadau y mae anghytuno yn eu cylch a barn gweithwyr proffesiynol.
• Cyfle ystyrlon i rieni gyfranogi, mynediad amserol at gofnodion, a gwaith effeithiol i graffu ar anghysondebau ffeithiol cyn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar fywyd teuluol.
• Prosesau goruchwylio ac adolygu gwirioneddol annibynnol pan fo tystiolaeth graidd neu gasgliadau proffesiynol yn cael eu herio.
• Dull manwl gywir o gofnodi ac ystyried dymuniadau a theimladau plant a’u perthnasoedd teuluol.
• Dyletswyddau statudol clir sy'n cefnogi tryloywder, mynediad at dystiolaeth a hawliau gweithdrefnol.
• Mynediad at arbenigwyr cam-drin domestig annibynnol sydd wedi'u hyfforddi'n addas ar gyfer achosion perthnasol, gan gefnogi arfer cyfredol sy'n ystyriol o drawma.
Dylai'r broses weithredu gynnwys dyletswyddau statudol cryfach, canllawiau cadarn i ymarferwyr, hyfforddiant gorfodol ar werthuso tystiolaeth, ac amserlenni rhesymol i deuluoedd herio’r cofnodion sylfaenol.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd