Deiseb Galluogi GIG Cymru i Greu Partneriaeth â Darparwyr Digidol Cymeradwy i Wella Mynediad at Wasanaethau Fferyllfa.
Mae cleifion yng Nghymru yn haeddu mwy o ddewis, mae fferyllfeydd cymunedol yn haeddu'r offer i ffynnu, ac mae angen lleddfu'r pwysau ar staff y GIG. Yn Lloegr, gall darparwyr cymeradwy gysylltu systemau'r GIG a fferyllfeydd yn ddiogel, gan ddwyn ynghyd bresgripsiynau, cyfathrebu a gwasanaethau'r GIG a gwasanaethau preifat. Caiff cleifion well mynediad at ofal, mae fferyllfeydd yn lleihau galwadau a gwaith gweinyddol, a gellir darparu mwy o ofal yn lleol, gan helpu i leihau pwysau y gellir ei osgoi ar draws y GIG.
Rhagor o fanylion
Mae Cymru wedi gwneud cynnydd pwysig drwy Ap GIG Cymru. Nawr, credwn y dylai fynd ymhellach.
Yn Lloegr, gall darparwyr cymeradwy gysylltu systemau'r GIG a fferyllfeydd yn ddiogel. Caiff cleifion fwy o ddewis, gwell gwelededd o ran presgripsiynau, cyfathrebu uniongyrchol â fferyllfeydd a mynediad haws at wasanaethau a ariennir gan y GIG a gwasanaethau preifat.
Mae fferyllfeydd yn elwa hefyd: llai o alwadau, llai o waith gweinyddol, perthnasoedd cryfach â chleifion a'r gallu i gynnig gwasanaethau cysylltiedig o dan eu brand lleol dibynadwy eu hunain. Gall mynediad gwell at wasanaethau fferyllfa hefyd helpu i leddfu pwysau ar feddygon teulu a'r GIG ehangach.
Rydym yn gofyn am fframwaith diogel, agored sydd ar gael i unrhyw ddarparwr sy'n bodloni'r safonau gofynnol, nid mynediad sy’n ffafrio unrhyw gwmni neu gynnyrch.
Partneriaeth yw hon, nid preifateiddio. Dylai GIG Cymru barhau i fod mewn rheolaeth gadarn, gan osod y safonau, cymeradwyo mynediad a diogelu data cleifion, a rhoi mwy o ddewis i gleifion a chyfle i fferyllfeydd arloesi.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd