Deiseb Gwneud Camerâu a Wisgir ar y Corff yn Orfodol i Weithwyr Cymdeithasol yng Nghymru
Pan fydd penderfyniadau yn gallu newid bywyd plentyn am byth, dylai fod cofnod cywir o'r hyn a ddigwyddodd.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud camerâu a wisgir ar y corff yn orfodol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy'n cynnal ymweliadau cartref, ymholiadau amddiffyn plant ac asesiadau teuluol.
Ar hyn o bryd, mae arsylwadau a sgyrsiau hollbwysig yn cael eu cofnodi ar ffurf nodiadau achos, asesiadau ac adroddiadau. Mae plant yn rhy bwysig i benderfyniadau diogelu ddibynnu yn llwyr ar gofio a gwaith papur.
Rhagor o fanylion
Mae marwolaethau Logan Mwangi yng Nghymru a Sara Sharif yn Lloegr yn ein hatgoffa mewn ffordd ysgytwol pam mae’n rhaid i systemau diogelu greu’r darlun cliriaf a mwyaf cywir posibl o amgylchiadau plentyn.
Gallai camerâu a wisgir ar y corff sicrhau tryloywder hanfodol. Gallent gadw cofnod gwirioneddol o’r hyn mae gweithwyr proffesiynol yn ei weld, gallent nodi anghysondebau mewn adroddiadau dilynol, gallent amddiffyn teuluoedd rhag cofnodi anghywir, a gallent amddiffyn gweithwyr cymdeithasol rhag honiadau ffug.
Ond, yn anad dim, mae hyn yn ymwneud ag amddiffyn plant.
Mae swyddogion heddlu yn defnyddio camerâu a wisgir ar y corff oherwydd bod tystiolaeth, cywirdeb ac atebolrwydd yn bwysig. Pan fydd gweithwyr cymdeithasol yn mynd i gartrefi plant ac yn cynnal asesiadau a all ddylanwadu ar benderfyniadau diogelu a fyddai’n newid bywydau, mae'r egwyddorion hynny yr un mor bwysig.
Rhaid i fesurau diogelu priodol amddiffyn preifatrwydd plant a rheoli'n llym sut mae’r recordiadau’n cael eu storio, eu cyrchu a'u defnyddio.
Os yw'n ddigon pwysig i newid bywyd plentyn, mae'n ddigon pwysig i'w gofnodi.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd