Deiseb Dechrau profion wedi’u targedu ar Bridd, Dŵr a Gwaed mewn ardaloedd yng Nghymru sy’n wynebu risg o Fiffenylau Policlorinedig (PCBau) a halogion eraill

Yn dilyn canfyddiadau'r rhaglen ddogfen ddiweddar gan y BBC, 'Buried', mae wedi gwawrio ar gymunedau ledled Cymru fod tir halogedig ar stepen eu drws.

Mae llawer yn y cymunedau hyn wedi gweld drostynt eu hunain dystiolaeth o safleoedd dympio heb ddim i nodi yn swyddogol bod y tir yn halogedig, a safleoedd lle nad yw data profion ar gael i'r cyhoedd, neu lle nad yw profion yn digwydd.

Mae ein cymunedau'n teimlo eu bod wedi mynd yn angof a’u bod yn ddiymgeledd yn wyneb risg anfesuradwy.

Rhagor o fanylion

Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio gyda chynghorau lleol i ddechrau cyfundrefn brofi helaeth a phenodol yn y cymunedau sy’n wynebu risg.

Yn benodol, cyfundrefn wedi’i thargedu o brofion tir a dŵr ar gyfer yr ystod lawn o PCBau (PCB 7 a WHO 12) a halogion carsinogenaidd eraill sy'n effeithio ar iechyd, a hynny ochr yn ochr â chyfundrefn fyddai’n profi gwaed gwirfoddolwyr.
Trwy wneud hyn, byddai gan Gymru set ddata sylfaenol glir o lefelau halogiad PCBau yn y cymunedau hynny sy’n wynebu risg.

Mae ein trigolion yn gwybod nad yw profion gwaed ar gyfer PCBau ynddynt eu hunain yn cynnig ateb pendant i’r risg. Byddai caniatáu inni wirfoddoli ar gyfer y math hwn o brofion yn rhoi profion sylfaenol i'r DU (sef rhywbeth nad oes gennym ar hyn o bryd) a byddai’n sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru’r data i ateb anghenion iechyd posibl.

Byddai profion penodol ar gyfer tir a dŵr ar safleoedd yr amheuir bod dympio wedi digwydd arnynt yn rhoi'r atebion sydd eu dirfawr angen ar ein cymunedau. Rydym yn haeddu cael eglurder ynghylch y risgiau a allai fod yn llechu o dan ein traed.

Llofnodi’r ddeiseb hon

190 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon