Deiseb Dylid comisiynu adolygiad annibynnol o ddiogelwch cleifion yn ystod argyfyngau iechyd meddwl acíwt yng Nghymru

Rwy'n galw am yr adolygiad hwn yn dilyn dwy farwolaeth a gofnodwyd ac achos difrifol a fu bron â digwydd, yn ymwneud â phobl sy'n profi argyfyngau iechyd meddwl acíwt, gan gynnwys pryderon yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor. Mae'r ddeiseb hon yn ymwneud â diogelwch cleifion ac atal: a sicrhau asesiad risg cadarn, goruchwyliaeth briodol, mewnbwn iechyd meddwl arbenigol a mynediad diogel at ofal gan barchu urddas a hawliau cyfreithiol cleifion.

Rhagor o fanylion

Roedd un o'r marwolaethau yr adroddwyd yn ei chylch yn ymwneud â fy ffrind gorau. Rwyf wedi darparu tystiolaeth ar wahân i'r Crwner ac wedi codi pryderon ynghylch diogelwch cleifion gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Rwy'n gofyn am adolygiad annibynnol o ran a yw'r systemau presennol yn ddigon cadarn, gan gynnwys asesiadau risg, ystyried capasiti lle bo'n berthnasol, rhannu gwybodaeth, asesiadau iechyd meddwl arbenigol, goruchwyliaeth a gweithdrefnau pan fydd claf agored i niwed yn gadael adran achosion brys.

Rwy'n credu bod y digwyddiadau hyn yr adroddwyd yn eu cylch yn amlygu bod angen adolygiad annibynnol i weld a oes risgiau neu fylchau cyffredin yn y systemau ar hyn o bryd ar gyfer amddiffyn pobl sy'n profi argyfyngau iechyd meddwl acíwt yng Nghymru, fel y gellir nodi gwersi priodol ac atal rhagor o niwed.

Llofnodi’r ddeiseb hon

54 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon