Deiseb Cyfleusterau noddfa i fabanod ledled Cymru – diogel, preifat a chyfrinachol
Gall rhai rhieni deimlo eu bod ar ben eu tennyn ac na allant ofalu am eu babanod newydd-anedig. Dylai fod gan Gymru opsiwn diogel a chyfrinachol lle gellir trosglwyddo baban yn ddiogel i weithwyr proffesiynol hyfforddedig i gael gofal brys.
Rhagor o fanylion
Mae blychau a gwasanaethau noddfa eisoes yn bodoli mewn rhannau o'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill. Dylai Cymru ymchwilio i'r modelau hyn ar frys ac ystyried a ellid cyflwyno system debyg yma.
Dylai rhieni mewn argyfwng gael lle diogel i fynd â'u babanod newydd-anedig, 24 awr y dydd, gyda gofal meddygol brys ar gael i'r baban a chefnogaeth briodol i'r rhiant.
Dylai mynediad fod yn ddienw neu'n gyfrinachol, lle bo modd cynnig hynny o dan y gyfraith, gyda gweithdrefnau diogelu cryf yn eu lle.
Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i’r mater hwn yn llawn, gan ymgynghori ag arbenigwyr a chymryd camau tuag at sefydlu gwasanaeth noddfa yng Nghymru. Os gall y gwasanaethau hyn weithredu mewn mannau eraill, dylai Cymru ystyried o ddifrif a allwn achub bywydau yma hefyd.
Y nod yw darparu opsiwn diogel arall mewn argyfwng a helpu i atal babanod newydd-anedig rhag cael eu gadael mewn amgylchiadau anniogel.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd