Deiseb Mynnu labelu clir i ddangos a gafodd anifeiliaid eu stynio ai peidio cyn eu lladd

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno labelu gorfodol ar yr holl gig sy’n cael ei werthu yng Nghymru i nodi a gafodd yr anifail ei stynio ai peidio cyn ei ladd. Mae'r Awdurdod Safonau Bwyd eisoes yn cofnodi statws stynio ym mhob lladd-dy cymeradwy trwy Filfeddygon Swyddogol, archwiliadau a chamau i fonitro lles.

Fodd bynnag, ni chaiff y wybodaeth hon ei throsglwyddo i ddefnyddwyr. Mae hwn yn fater clir o les anifeiliaid sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd.

Rhagor o fanylion

Mae labelu bwyd wedi'i ddatganoli i Gymru, sy'n golygu bod gan Lywodraeth Cymru y pŵer i weithredu'n annibynnol. Felly, mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i fod ar flaen y gad yn foesegol drwy sicrhau tryloywder, gwella dewis i ddefnyddwyr, a dangos ymrwymiad i leihau creulondeb yn y gadwyn fwyd. Byddai labelu gorfodol i ddangos statws stynio yn:

darparu gwybodaeth glir a gonest i ddefnyddwyr;

gwella tryloywder ynghylch lles anifeiliaid;

caniatáu i bobl wneud dewisiadau moesegol gwybodus;

defnyddio ddata sydd eisoes wedi'u casglu mewn lladd-dai;

dangos Cymru fel cenedl sy'n barod i arwain ar safonau lles.

Nid yw'r cynnig hwn yn cyfyngu ar ladd anifeiliaid ar seiliau crefyddol. Yn syml, mae’n sicrhau bod defnyddwyr yn cael y wybodaeth berthnasol.

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru adolygu'r mater hwn a chyflwyno gofyniad cymesur i labelu mewn ffordd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel y gall pobl yng Nghymru wneud dewisiadau cwbl wybodus am y bwyd maen nhw'n ei brynu.

Llofnodi’r ddeiseb hon

5 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon